Delweddau anweddus: Dau athro'n pledio'n euog

  • Cyhoeddwyd
caernarfon crown court
Disgrifiad o’r llun,
Llys y Goron Caernarfon

Mae dau frawd, sy'n athrawon, wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o fod â lluniau anweddus o blant yn eu meddiant.

Yn llys y Goron Caernarfon, plediodd Dr Robyn Wheldon Williams, 39 oed, athro Cemeg yn Ysgol Syr Huw Owen i wyth cyhuddiad yn ymwneud a mwy na 1,400 o ddelweddau a ffilmiau anweddus.

Disgrifiad o’r llun,
Dyfan a Dr Robyn Wheldon-Williams yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caernarfon ar Fai 20

Mae ei frawd 42 oed, Dyfan Wheldon Williams, athro yn Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog, wedi cyfaddef i dri cyhuddiad yn ymwneud a 40 delwedd anweddus o blant a delweddau eithafol.

Mae Robyn Wheldon-Williams wedi cyd-gyflwyno cyfres wyddonol i blant o'r enw Atom ar S4C yn y gorffennol, ac roedd yn Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg i'r Eisteddfod Genedlaethol am gyfnod. Roedd e hefyd wedi cael ei gyflogi gan Brifysgol Bangor.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae dau cyn-aelod o staff dysgu'r awdurdod wedi pledio'n euog i droseddau yn ymwneud â meddiant a chreu delweddau anweddus o blant.

Nid yw'r troseddau yn ymwneud â'u gwaith i'r awdurdod. Pan ddaethpwyd a'r honiadau i sylw'r Cyngor, dilynwyd holl weithdrefnau amddiffyn plant, a chafodd yr aelodau staff eu hatal o'u swyddi."

Cafodd y ddau frawd sy'n byw ym Mhontnewydd, eu rhyddhau ar fechniaeth amodol. Byddan nhw'n cael eu dedfrydu ddydd Gwener Gorffennaf 8.