Cynghrair y Pencampwyr: Seintiau v Tre Penne o San Marino
- Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd wedi bod yn bencampwyr Cynghrair Cymru ers pum mlynedd
Bydd Y Seintiau Newydd yn wynebu SP Tre Penne o San Marino yn rownd gynta rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr 2017.
Fis Ebrill gwnaeth Y Seintiau guro Bala o 2-0 i sicrhau eu lle ar frig Uwchgynhrair Cymru am y pumed gwaith yn olynnol.
Bydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar Fehefin 3 2017.
Mae'r Seintiau, o Groesoswallt a SP Tre Penne i fod i chwarae ar Fehefin 28 neu 29 gyda'r ail gymal ar naill ai Orffennaf 5 neu 6. Petai nhw'n ennill, eu gwrthwynebwyr nesa fydd APOEL FC o Limassol, Cyprus yn hwyrach fis Gorffennaf.
Ac yn rownd rhagbrofol gynta Cynghrair Europa fydd Bala yn chwarae yn erbyn AIK Solna o Sweden, tra bydd Cei Connah yw wynebu Stabaek o Norwy. Gwrthwynebwyr MBi Llandudno fydd Goteborg o Sweden.