Refferendwm Ewrop: Beth yw barn prifysgolion Cymru?

  • Cyhoeddwyd
YmchwilFfynhonnell y llun, Thinkstock

Does 'na ddim amheuaeth ble mae prifysgolion Cymru'n sefyll ar y ddadl am ddyfodol aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw wedi derbyn miliynau o bunnau gan yr UE ar gyfer ymchwil ac adeiladau newydd - arian, meddai nhw, sy'n dod â budd enfawr i economi a chymdeithas Cymru

Ond mae'r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud y byddai ymchwil gwyddonol a phrifysgolion yn cael o leiaf yr un faint o arian os yw Prydain yn gadael, tra bod yr ymgyrch o blaid aros yn dweud ei fod yn amhosib gwarantu hynny.

Yn gynharach yn y mis, cyhoeddodd y corff sy'n cynrychioli prifysgolion Cymru lythyr agored yn nodi'r hyn maen nhw'n eu gweld fel manteision bod yn aelod o'r Undeb.

Dywedodd y llythyr bod y rhyddid sydd gan fyfyrwyr a staff i symud o gwmpas yr Undeb Ewropeaidd "yn cyfoethogi profiad y myfyriwr" a'n gwneud cyfraniad "gwerth cannoedd o filiynau o bunnau" i economi Cymru.

Colli swyddi?

Mae awdur y llythyr, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd Colin Riordan, yn dweud bod partneriaethau gydag ymchwilwyr eraill yn yr UE yn gyrru twf economaidd ac arloesedd mewn meysydd fel iechyd.

Rhybuddiodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe yr Athro Richard Davies, y gallai'r brifysgol orfod cyfyngu ei gwaith os yw Prydain yn gadael yr UE, gyda'r posibilrwydd o dorri swyddi.

Ond mae economegydd o Brifysgol Caerdydd yn dadlau bod y buddsoddiad o Frwsel wedi dod yn wreiddiol o drethdalwyr Prydain.

Yn ôl Kent Matthews, Athro Bancio a Chyllid, fe fyddai prifysgolion, fel sefydliadau eraill, yn gorfod cyflwyno eu hachos am fuddsoddiad pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd mai "rhagoriaeth academaidd sy'n gyrru buddsoddiad".

Ansawdd prifysgolion Prydain yw'r ffactor allweddol hefyd, wrth ddenu partneriaid ymchwil ymhlith gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ac ar draws y byd, meddai.

Mae'r rheini sydd eisiau aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn cyfeirio at Horizon 2020 - rhaglen ymchwil ac arloesedd yr Undeb Ewropeaidd sydd werth £67 biliwn. Maen nhw'n dweud bod disgwyl i ymchwilwyr yng Nghymru ddenu £218 miliwn o'r gronfa erbyn 2020.

Ond mae'r Athro Matthews yn dadlau bod academwyr o du allan i'r Undeb Ewropeaidd yn gallu gwneud ceisiadau am yr arian hefyd.

Mewn dadl am y refferendwm wedi ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd, buodd y cyn Gomisiynydd Ewropeaidd Neil Kinnock ac Aelod Cynulliad UKIP Neil Hamilton yn dadlau am gyfraniad yr Undeb Ewropeaidd i ymchwil meddygol.

Ffynhonnell y llun, Cardiff University

Mae ymgyrchwyr dros adael yn honni bod rheolau'r UE ar dreialon clinigol wedi creu biwrocratiaeth sydd wedi cyfyngu ar y gallu i arloesi.

Ond dywedodd Neil Kinnock bod yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrando ar bryderon ac yn cyflwyno trefn newydd sydd wedi cael ei ganmol gan wyddonwyr.

Yn ystod y ddadl dywedodd y byddai gadael y drefn yn "peryglu bywydau."

"Mae'r gallu i fwrw ymlaen gyda'r frwydr yn erbyn cancr, clefyd y siwgr, a sawl clefyd angheuol arall yn cael ei gyfyngu os nad oes gennym ni'r fframwaith iawn ar gyfer cynnal yr ymchwil gyda'r ariannu angenrheidiol."

'Arian Prydain'

"Fel mae'r prifysgolion yn tystio eu hunain - ac yn wir pob un ohonyn nhw yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig - mae'r berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn allweddol achos llif talent, symudiad myfyrwyr, y prosiectau ymchwil cyfnewid a'r rhai ar y cyd gan gynnwys ym maes allweddol meddygaeth."

Ond dywedodd yr ymgyrchydd dros adael Neil Hamilton nad oes modd datgysylltu'r drafodaeth am ariannu prifysgolion o'r ddadl economaidd ehangach.

"Mae tua 3% o gyllidebau prifysgolion yn dod o'r Undeb Ewropeaidd ond arian trethdalwyr Prydain yw e, er bod yr UE yn penderfynu'r blaenoriaethau," meddai.

"Mae'n dibynnu yn y pendraw ar amgylchiadau economaidd."

"Dydy economi Ewrop ddim yn symud - dyma'r unig gyfandir sydd ddim wedi gweld twf economaidd ers 2000 ac rydyn ni wedi ein clymu i gorff marw mewn gwirionedd."