Troseddau rhyw yn erbyn plant: 296 yn ymwneud â'r we
- Cyhoeddwyd

Cafodd bron i 300 o droseddau rhyw yn erbyn plant, oedd yn ymwneud â'r we, eu cofnodi gan heddluoedd Cymru'r llynedd.
Mae ffigyrau gan elusen NSPCC trwy gais rhyddid gwybodaeth yn dangos bod 21 o'r plant yn 10 oed neu yn iau.
Chwech oed oedd y plentyn ieuengaf.
Dyma'r tro cyntaf y mae yna ddyletswydd ar yr heddlu i gofnodi unrhyw drosedd yn erbyn plentyn sydd yn ymwneud gyda'r rhyngrwyd.
Cafodd ffigyrau hefyd eu casglu ar gyfer heddluoedd Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae yna amrywiaeth yn y niferoedd ymhlith heddluoedd Cymru gyda heddlu Dyfed Powys yn cofnodi 116 o droseddau, Heddlu'r Gogledd 95, Gwent 59 a Heddlu'r De yn cofnodi 26.
Dywedodd Prif Weithredwr NSPCC, Peter Wanless: "Mae'n amlwg bod y we wedi chwarae rhan yn y nifer uchel o ymosodiadau rhywiol ar blant a phlant yn cael eu treisio- er enghraifft trwy gymell o flaen llaw cyn cam-drin neu dangos y cam-drin ar lif byw.
"Rydyn ni yn gwybod bod hyn ar gynnydd achos mae plant yn gynyddol yn dweud wrth ein gwasanaethau ChildLine sut maen nhw'n cael eu targedu ar y we."
Bydd y ffigyrau yn cael eu trafod yn ystod cynhadledd flynyddol yr elusen yn Llundain.