M4: Disgwyl cyhoeddi manylion yr ymchwiliad cyhoeddus
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r manylion ynglŷn ag ymchwiliad cyhoeddus i lwybr newydd y M4 gael eu datgelu yn ddiweddarach.
Bydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates yn cyhoeddi'r dyddiad a'r cylch gorchwyl pan fydd yn siarad yn y Senedd brynhawn Mawrth.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd er mwyn lleihau tagfeydd traffig ar yr M4.
Mae grwpiau amgylcheddol wedi gaddo y byddan nhw'n dangos gwendidau yn yr achos ar gyfer adeiladu'r ffordd.
Dywedodd Mr Skates wrth BBC Radio Wales yn gynharach y mis yma y dylai'r ymchwiliad cyhoeddus fynd yn ei flaen cyn gynted â phosib "er mwyn penderfynu a chraffu ar yr holl opsiynau a hefyd i weld os oes yna unrhyw opsiynau eraill posib."
Mi fyddai'r cynllun y mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio, y llwybr du yn golygu adeiladu traffordd rhwng cyffordd 23 a 29 ac yr amcangyfrif yw y byddai'n costio tua £1.1 biliwn.
Mae rhai ACau Llafur hefyd yn anghytuno gyda'r llwybr du ac Aelodau Cynulliad Plaid Cymru.
Mae disgwyl i'r ymchwiliad gychwyn yn yr hydref.