Cefnogwyr Cymru yn dathlu buddugoliaeth yn erbyn Rwsia
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi cyrraedd yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth Euro 2016 wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Rwsia neithiwr ac mae Gareth Bale wedi disgrifio perfformiad y tîm nos Lun fel "y gorau".
Yn Toulouse ac yng Nghymru, mae'r cefnogwyr wedi bod yn dathlu llwyddiant Cymru wrth i`r tîm sgorio tair gôl yn erbyn Rwsia.
Mae nifer fawr o Gymry yn trefnu taith i Baris lle fydd y gêm nesaf yn cael ei chwarae ar ôl i Gymru gyrraedd brig grwp B yn dilyn gêm ddi-sgôr rhwng Lloegr a Slofacia nos Lun.
Eu gwrthwynebwyr fydd y tîm yn y drydedd safle yng ngrŵp grwp A, C neu D, sef Albania, Yr Almaen, Gwlad Pwyl, Gog Iwerddon, Croatia, Y Weriniaeth Siec neu Dwrci.
Cymru oedd y tîm cryfaf o'r dechrau, gyda'r gôl gyntaf yn dod i Aaron Ramsey wedi pymtheg munud, gôl rhif 11 iddo dros Gymru.
Fe ddaeth yr ail i Neil Taylor wrth iddo dorri'n rhydd ar yr asgell chwith. Dyma ei gôl gyntaf i'w wlad.
Gareth Bale gafodd y drydedd gôl a hynny ar ôl iddo fod yn pwyso am beth amser, ar ôl pas daclus gan Ramsey.
Ar ôl y gêm dywedodd Gareth Bale: "Dyna'r perfformiad gorau dwi wedi bod yn rhan ohono."
Unwaith eto fe wnaeth e ddiolch i'r cefnogwyr: "Dwi am ddiolch i'r cefnogwyr yma ac adref. Mae'n freuddwyd i ni gyd."
Mae Aaron Ramsey wedi dweud bod y fuddugoliaeth wedi rhoi Cymru "ar y map".
"Ro'n ni eisiau dangos beth ry ni'n gallu neud ac fe nethon ni fe ar y llwyfan mawr. Pwy a ŵyr beth ddigwiddith nawr, " meddai.
Fe ddaeth canmoliaeth i Chris Coleman a'i garfan gan un o sêr rygbi Cymru. Dywedodd Jamie Roberts bod y tîm rygbi wedi gwylio'r gêm yn Seland Newydd ac wedi'u hysbrydoli gan berfformiad y Cymry.
Ymateb y cefnogwyr
Yn ardal y cefnogwyr yn Toulouse dwedodd Stephen Palmer, o Bort Talbot, 49 oed : "Ymateb fi i'r gêm? Aruthrol. Ry' ni drwodd, 'na gyd sy'n bwysig a dwi'n aros yn Ffrainc am wythnos arall."
Roedd tafarn yr Eagles yn Llanuwchlyn o dan ei sang nos Lun. Ymhlith y cefnogwyr oedd yno i wylio'r gem oedd Iwan Arthur.
Meddai: "Wel am noson arbennig. Dwi wedi bod yn meddwl am hyn ers blynyddoedd lawer ac mae heno yn noson arbennig iawn achos 'da ni wedi bod yno droeon - ac wedi methu droeon.
"Oeddwn i yn Rwsia pan wnaetho ni golli yn 2003 - a mae heno wedi talu'r pwyth yn ôl ddwywaith, dairgwaith drosodd. "
Dywedodd Eurwyn Jones sydd wedi dilyn Cymru ers blynyddoedd: "Dwi'n ddyn hapus iawn heno. 'Da ni wedi colli gymaint o gemau yn y gorffennol - a heno dwi'r dyn hapusaf yn y byd."