Achos peryglu awyrennau: Sŵn "annioddefol"
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o ddisgleirio golau ar awyrennau'r Awyrlu wedi dweud fod y sŵn wedi mynd yn "annioddefol".
Mae'r dyn busnes o Fôn, John Arthur Jones, yn gwadu peryglu awyrennau oedd yn hedfan dros ei gartre' ger Mona.
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi'r angen i hyfforddi peilotiaid ond ei fod wedi gofyn i'r Awyrlu droeon i hedfan ychydig yn bellach o'i dŷ.
Dywedodd wrth y llys ei fod un tro wedi casglu ei wyres o'r feithrinfa pan hedfanodd awyren jet yr Awyrlu uwchben gan wneud sŵn "annioddefol" wrth droi tua 200 troedfedd i fyny.
"Sgrechiodd hi a rhoi ei dwylo dros ei chlustiau gan grïo'r holl fordd yn ôl i'r tŷ," meddai Mr Jones.
'Trawma'
Mae Mr Jones, 66 oed, Fodffordd yn gwadu 13 cyhuddiad o beryglu awyrennau ger maes awyr Mona rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014 drwy ddisgleirio golau llachar tuag atynt.
Dywedodd ei fod yn gwybod am weithgareddau'r RAF pan brynodd dir Parc Cefni oddi wrth Dŵr Cymru yn 2013, ac roedd yn gefnogol i'r angen i hyfforddi peilotiaid i'r safon uchaf posib.
Fe ddaeth y sŵn yn "broblem" yn 2007 pan ddechreuodd yr RAF hyfforddi peilotiaid tramor, meddai Mr Jones wrth Lisa Judge, bargyfeithwraig yr amddiffyniad.
Amlinellodd ei ohebiaeth â Commander Hedley o'r Awyrlu, oedd wedi "ymateb yn rhesymol" ac wedi addo ymchwilio, ar ôl i Mr Jones ddweud am y "trawma" yr oedd y sŵn awyrennau jet yn achosi i blant yn y feithrinfa.
Ond pan benodwyd pennaeth newydd, dywedodd Mr Jones, fod hwnnw wedi'i gynghori i fynd â'i gwynion i'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Roedden nhw wedi gofyn iddo a oedd yn hawlio iawndal o gwbwl, meddai.
'Sŵn annioddefol'
Dywedodd Mr Jones wrth y pennaeth fod yr awyrennau'n creu sŵn annioddefol a oedd yn dychryn plant ifanc.
Doedd e ddim eisiau iawndal ond roedd eisiau i lwybr yr awyrennau gael eu symud ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd.
"Roedd yna fater diogelwch achos, i'm cof i, mae 13 o ddamweiniau wedi bod ym Mona, damweiniau lle mae jets wedi syrthio yn y caeau ger y llain glanio neu arno. Rwy'n gwybod beth sy'n gallu digwydd, yn anffodus mae rhai o'r damweiniau hynny wedi arwain at golli bywyd," meddai Mr Jones.
O dipyn i beth, daeth yn amlwg o'r Weinyddiaeth Amddiffyn, meddai, fod yr RAF yn mynd i barhau i wneud yr hyn yr oedden nhw eisiau ei wneud, ac mai gwneud cais am hawliad sifil oedd yr un llwybr y gallai ei gymryd.
Ar ôl cael cyngor cyfreithiol, casglodd dystiolaeth i gefnogi ei hawliad fod yr awyrennau'n beryglus ac yn dychryn plant ifanc, meddai.
Pan ofynnodd y Barnwr Geraint Walter iddo a oedd yn ymwybodol o'r sŵn o'r maes awyr pan brynodd yr eiddo a pharc Cefnog, dywedodd Mr Jones: "Yn amlwg, dwi'n gwybod achos roeddwn i'n byw hyd yn oed yn agosach i'r llain glanio o'r blaen. Mae'n hollol wahanol pan mae e'n union uwch eich pen chi."
Hefyd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones ei fod yn nhŷ bwyta'r seren bêl-droed, Rio Ferdinand ym Manceinion ar un o'r nosweithiau y mae'n cael ei gyhuddo o ddisgleirio goleuadau at awyrennau.
Ar noswaith arall, dywedodd ei fod yn ymweld â bedd ei rieni ym mynwent Llantrisant.
Mae'r achos yn parhau.