Arloeswyr y darlledu newydd

  • Cyhoeddwyd
Sioned a Bryn ar fin darlledu Haclediad arall i'r genedl a thu hwntFfynhonnell y llun, Sioned Mills
Disgrifiad o’r llun,
Sioned Mills a Bryn Salisbury ar fin darlledu Haclediad arall i'r genedl a thu hwnt

Mae'n ein galluogi i gysylltu gyda phedwar ban byd mewn eiliadau, i gael gwybodaeth am unrhyw bwnc dan haul dim ond trwy glic neu ddau ac fe allwn ni ddarlledu i'r byd o'r gegin neu'r stafell wely.

Mae hi'n rhyfeddol beth y gallwn ni ei wneud erbyn hyn trwy gyfrwng y dechnoleg newydd ac mae 'na ddatblygiadau ffres bron iawn bob dydd.

Ymhlith y rhai sydd wedi eu gwe-freiddio gan y gajets a'r rhyngrwyd mae Sioned Mills, Iestyn Lloyd a Bryn Salisbury. Bron i chwe blynedd yn ôl penderfynodd y tri rannu eu hoffter o'r byd technolegol trwy ddarlledu podlediad arloesol, neu'r Haclediad. Maen nhw newydd gyhoeddi eu 50fed darllediad yn ddiweddar.

Sioned fu'n sôn mwy wrth Cymru Fyw am y fenter arloesol:

Dwlu ar drafod

Mae'n eitha swreal i feddwl bo' Bryn, Iestyn a mi wedi bod yn darlledu ers 25 Hydref 2010. Yn y bôn, mi ydan ni'n amaturiaid sy'n dwlu ar drafod, dydan ni ddim yn arbenigwyr. Gwraidd y gair amateur yw rhai sy'n gwneud rhywbeth am bleser a chariad at ei wneud, mae hi jyst yn fonws bod pobl yn hapus i wrando.

Yn ein pennod gyntaf nôl yn 2010, roedd yr iPad yn rywbeth newydd sbon, ac yn embaras i'n hunan, ro'n i'm amheus iawn a fyddai hwnnw'n lwyddiant. Ro'n ni'n gweld bod isie trafodaeth tech yn y Gymraeg ar y pryd, ond i ddeud y gwir mae pethau'n dal yn eithaf llwm o ran podlediadau diwylliant poblogaidd yn y Gymraeg. Mae rhai nodweddiadol fel Podpeth wedi dod, ond mae dal eisiau mwy. Dyna pam benderfynon ni ddechrau darlledu.

Ar yr wyneb, sioe dechnoleg ydi'r Haclediad, gyda rhifyn yn dod allan bob mis(ish) ers chwe blynedd. I'r rhai sy'n tanysgrifio i'r rhaglen mae'r arlwy wedi esblygu fel chimera od o sgwrs amatur am tech, i fod yn gyfuniad o sioe am gwrw cartref, torri coesau a dyfynnu Jeff Goldblum a Kevin Costner bob yn ail rifyn.

Disgrifiad o’r llun,
Bryn a Sioned yn y 'stiwdio'

Caerdydd, Caernarfon a Llundain

Dechreuodd y podlediad fel spin off i gynhadleddau technoleg Hacio'r Iaith. Fues i'n lwcus iawn i gwrdd â Iestyn Lloyd, dylunydd o Gaernarfon a Bryn Salisbury, arbenigwr diogelwch arlein sy'n byw yn Llundain a darganfod bod ganddon ni lwyth i siarad amdano. Mae'r podlediad yn cael ei recordio'n fisol dros Skype o Gaerdydd, Caernarfon a Llundain.

Dwi'n angori'r sioe, gan mai defnyddiwr technoleg sy'n gwirioni ar radio ydw i, yn hytrach na phen technegol sy'n dilyn y gajets diweddaraf. Dydan ni wir ddim yn trio swnio fel arbenigwyr (heblaw am Bryn, achos mae o wir *yn* gwbod am ddiogelwch digidol), ond mae hi'n sioe clecs a diddanwch, efo barn bersonol.

R'yn ni'n gobeithio bod safon y drafodaeth wedi gwella dros y chwe blynedd diwethaf, dwi'n sicr yn methu gwrando ar fy hun yn y penodau cynnar! Mae Iestyn, Bryn a minnau ond yn cwrdd go iawn tua unwaith y flwyddyn, ond 'dyn ni wedi dod i nabod ein gilydd trwy'r cwpl o oriau y mis 'na, ac mae'r podlediad yn ymestyn ei gynnwys wrth i ni ddechrau trafod y pynciau o amgylch y dechnoleg, a dod i nabod ein gilydd ar yr un pryd â'r gynulleidfa.

Disgrifiad o’r llun,
Pot-lediad?

Dwi wedi priodi a chael dau o blant yn y cyfnod dwi di bod yn podledu, a gafon ni Elliw Gwawr, gohebydd San Steffan BBC Cymru fel cyflwynydd gwadd yn ystod y cyfnod pan ges i'r babis, i roi bach o safon i'r sioe! Mae llawer wedi digwydd ym mywyd Bryn yn y cyfnod yma hefyd, gan gynnwys tacsi'n ei daro i lawr (a gorfod byw adre heb broadband) a symud cartre' deirgwaith. A dros y chwe blynedd diwetha' mae Iestyn wedi rhedeg mynyddoedd a dilyn pob lansiad gan y cwmni Apple gyda llygaid sgleiniog.

Podlediadau Americanaidd

Ym myd y podlediadau mawr Americanaidd, hysbysebion yw'r peth cyntaf glywch chi, a byddan nhw'n parhau trwy'r sioe. Yn anffodus dydi'r Haclediad ddim yn denu arian mawr gan Squarespace, ond r'yn ni'n ei wneud achos dyma'r math o sioe y bydden ni ein hunain yn joio gwrando arni. Dwi'n credu mai dyna wraidd y rhaglen, roedden ni eisiau podlediad Cymraeg, 'doedd neb yn gwneud un, felly dechreuon ni ddarlledu. Ac fel mae Kevin Costner yn deud yn 'Field of Dreams', "if you build it, they will come".

Dim ond yn ddiweddar dwi wedi dechrau gwrando ar bodlediadau mwyaf poblogaidd iTunes, ac er ein bod yn griw amatur, dydan ni ddim yn swnio mor wahanol â hynny i rai o'r podlediadau sydd ar frig y siartiau, addo!

Felly os ydych chi ffansi ein clywed ni a chael eich diddanu, chwiliwch amdanon ni ar iTunes neu Haciaith.com.

Ffynhonnell y llun, Sara Penrhyn Jones
Disgrifiad o’r llun,
Iestyn, Sioned a Bryn: Ymlaen i'r hanner cant nesa!