Dyn o Wynedd yn marw ar wyliau ym Malta

Allan Stanley Image copyright facebook
Image caption Allan a Diane Stanley

Mae dyn o Gymru wedi marw ar ôl cael ei daro gan gwch wrth nofio ar wyliau ym Malta.

Dywedodd ffrind i'r teulu fod gwraig Allan Stanley, Diane, wedi ceisio ei rybuddio o'r lan am y peryglon ar arfordir ynys Gozo ym Malta, ddydd Sadwrn.

Mae'r cwpl yn byw ger pentref Nefyn, yng Ngwynedd, ac yn ymwelwyr rheolaidd ac ynys Gozo.

Dywedodd y ffrind, nad oedd am gael ei enwi: "Roedden nhw wedi bod yno ers mis Ebrill. Roeddent wrth eu boddau yno, ac nid oedd Allan wedi bod yn rhy dda yn ddiweddar. Pan oeddynt allan ym Malta, roeddynt hapusaf, wrth eu boddau... Roedd Allen yn mwynhau nofio ac wrth ei fodd yn deifio.

"Roedd yn nofio yn y môr ar y pryd. Cafodd ei lusgo o dan y cwch ac yna ei daro gan y propelor. Roedd Diane yn galw ar Allan ar y traeth oherwydd gallai hi weld beth oedd yn mynd i ddigwydd. Roedd y traeth yn orlawn. A gwelodd yr holl beth yn digwydd."

"Rydym yn gobeithio y gall corff Allan gael ei ddychwelyd cyn gynted ag y bo modd. Mae'r digwyddiad bellach yn destun ymchwiliad gan yr heddlu."

Dywedodd y ffrind hefyd fod Mr Stanley yn "feistr o saer coed". Roedd y cwpwl yn rhedeg siop anrhegion a nwyddau i'r cartref ym Mhenrhos, ger Pwllheli.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn "darparu cefnogaeth i deulu dyn o Brydain a fu farw ym Malta ar 18 Mehefin."