Oedi cyn adeiladu ffordd osgoi yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith o gychwyn cynllun ffordd osgoi yng Ngwynedd yn wynebu oedi wrth i drafodaethau dros warchod bywyd gwyllt barhau.
Roedd y gwaith o adeiladu ffordd osgoi £65m ar gyfer y Bontnewydd i fod i ddechrau tua diwedd y flwyddyn.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gwrthod awgrymiadau y bydd 'oedi mawr' i'r cynllun.
Roedd disgwyl i fanylion y cynllun gael ei gyhoeddi yn y gwanwyn. Ond erbyn hyn, mae disgwyl iddynt gael eu gwneud yn gyhoeddus ym mis Awst.
Mae A.C. Arfon, Siân Gwenllïan, wedi dweud ei bod yn pryderu y gallai'r gwaith adeiladu'r ffordd gael ei ddal yn ôl am hyd at flwyddyn.
"Mae'r gorchmynion oedd i fod i gael eu cyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn hon, yn dal heb eu cyhoeddi, ac mae'n debyg na fydd y cynllun hwn yn symud ymlaen am o leiaf 12 mis arall," dywedodd wrth aelodau'r Cynulliad yr wythnos ddiwethaf.
"Rwy'n deall bod y broblem yn achosi anghydfod o ran beth i'w wneud am ystlumod."
Bydd y llwybr 6 milltir yn mynd a'r ffordd newydd o amgylch y tagfeydd presennol rhwng Bontnewydd a Chaernarfon, gan gysylltu â ffordd osgoi'r Felinheli.
Bydd y ffordd newydd yn croesi dwy afon, ac fe fydd saith o bontydd yn cael eu codi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth: "Rydym yn llwyr wrthod yr awgrym bod yna 'oedi mawr' yn y prosiect ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd.
"Er mwyn sicrhau bod y mesurau lliniaru amgylcheddol mwyaf priodol yn cael eu rhoi ar waith, mae rhai arolygon byr ychwanegol yn gorfod cael eu gwneud yn ystod yr wythnosau nesaf."
Dywedodd swyddogion eu bod yn disgwyl i'r gwaith adeiladu gychwyn ym mis Awst neu Medi 2017.
Yn gynharach, roedd dogfennau Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y dylai'r gwaith dechrau erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Dyfrgwn ac ystlumod
Dywedodd Peter Evans, swyddog rhywogaethau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru fod y ffordd yn mynd yn agos at ardal gadwraeth arbennig.
"Ein gwaith ni ydi i helpu diogelu'r aer, tir a dyfroedd sy'n darparu cartref i fywyd gwyllt cyfoethog, amrywiol a gwerthfawr o Gymru.
"Mae pryderon, gan fod hwn yn llwybr yn tarddu ar anheddau anifeiliaid fel y dyfrgi a'r ystlum pedol, sy'n rhywogaethau gwarchodedig.
"Rydym yn gweithio gyda'r datblygwyr ar hyn o bryd i gael rhagor o wybodaeth am sut y gall ystlumod ddefnyddio'r tir ar hyd y llwybr."