Darganfod corff mewn coedwig ger Bangor
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i Gaerhun ger Bangor nos Fawrth.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod corff dyn wedi ei ddarganfod mewn coedwig ger Bangor, Gwynedd.
Fe gafodd swyddogion eu galw ychydig wedi 19:00 nos Fawrth i goedwig plwyf Caerhun yn dilyn adroddiadau fod y corff wedi ei ddarganfod.
Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol, ond y gred yw mai corff dyn o Landudno sydd wedi bod ar goll ers mis Ebrill ydyw.
Cafodd Michael Bryn Jones ei weld ddiwethaf yn cerdded rhwng cyffyrdd 10 ac 11 ar ffordd yr A55 ger Bangor yn oriau man y bore 3 Ebrill.
Nid yw'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus, ac mae swyddogion yn cefnogi aelodau o deulu Mr Jones.
Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Delwedd camera cylch cyfyng o Mr Jones mewn siop ym Mangor.