Dim cais am drwyddedau amgylcheddol yng Nglyn Rhonwy
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni, sy'n cynllunio cynllun ynni dŵr yng Ngwynedd, wedi tynnu'n ôl ei geisiadau am drwyddedau amgylcheddol, sydd eu hangen i fwrw mlaen â'r cynllun.
Bwriad gwreiddiol Snowdonia Pumped Hydro oedd defnyddio dŵr o chwarel Glyn Rhonwy ger Llanberis er mwyn cynhyrchu trydan.
Ond heb y trwyddedau, sy'n cael eu rhoi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ni chaiff y cwmni adeiladu na gweithredu'r cynllun.
Mae CNC yn dweud nad oedd y cwmni wedi cyflwyno digon o wybodaeth ynglŷn â gweithredu a rheoli'r cynllun, gan ychwanegu fod "yna fylchau yn yr wybodaeth dechnegol."
Meddai Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau yn CNC: "Mae Llyn Padarn yn ased naturiol pwysig a hanfodol i'r ardal.
Cais cynllunio
"Mae'n bwysig i'r economi leol, i fywyd gwyllt ac i bobl.
"Dim ond os ydan ni'n gwbl fodlon bod cynlluniau cwmnïau'n profi y gallan nhw weithredu'n ddiogel, heb niweidio'r amgylchedd neu gymunedau lleol, y byddwn yn rhoi trwyddedau amgylcheddol.
"Ond, nid yw'r ymgeisydd wedi cyflwyno digon o wybodaeth inni wneud y penderfyniad hwnnw, ac felly mae'r ceisiadau wedi'u tynnu'n ôl."
Bydd rhaid i Snowdonia Pumped Hydro ystyried nawr a ydyn nhw am ail gyflwyno'r cais ai peidio.
Mae trwyddedau amgylcheddol yn elfennau ar wahân i'r broses gynllunio.
Cyngor Gwynedd sydd â'r hawl i wrthod neu ganiatáu ceisiadau cynllunio.
Cais o'r newydd
Dywed Snowdonia Pumped Hydro y byddant yn parhau a'u cynlluniau.
Maen nhw'n bwriadu ailgyflwyno eu cynlluniau ym mis Medi.
"Fel datblygwyr rydym yn disgwyl y bydd oedi o bryd i'w gilydd," meddai Dave Holmes, pennaeth y cwmni
"Fe fyddwn yn gwneud cais o'r newydd am drwydded unwaith rydym wedi dewis cwmni o ddatblygwyr i ymgymryd â'r gwaith. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2012