Crwner Abertawe angen manylion traffig cyn cwest plismones
- Cyhoeddwyd

Mae crwner dros dro Abertawe wedi gofyn am weld manylion newidiau trefniant ffordd Heol y Brenin yn y ddinas, cyn y cwest i farwolaeth plismones gafodd ei lladd mewn damwain ar y ffordd.
Cafodd y Sarjant Louise Lucas, 41 oed ac yn fam i tri o blant, ei tharo gan fws tra'n croesi'r heol fis Mawrth y llynnedd.
Roedd ei merch wyth oed wedi cael fan anafiadau yn y ddamwain.
Mewn cyfarfod ddydd Mercher i drefnu'r cwest, fe soniodd y crwner Colin Phillips am ddamwain arall ar yr heol.
Cafodd Daniel Foss, gweithiwr gwesty 37 oed, ei ladd ar Heol y Brenin fis Medi 2013.
Gofynnodd Mr Phillips am i fanylion y newidiadau Heol y Brenin.
Yn dilyn y marwolaethau fe gafodd, tair ffordd ddeuol i'r gorllewin ac un yn cludo traffig i'r dwyrain, eu newid.
Hefyd cafodd rhwystrau eu gosod i rwystro cerddwyr rhag croesi mewn mannau tu hwnt i'r croesfannau swyddogol.
Fe fydd y cwest i farwolaeth Sarjant Lucas yn cael ei gynnal fis Hydref nesa'.