Cynnig i ail enwi'r Cynulliad Cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Welsh Assembly

Mae'n bosib y bydd Cynulliad Cymru yn cael ei ailenwi yn Senedd Cymru a hynny yn gynt na'r disgwyl.

Fe fydd Mesur Cymru, sy'n cael ei drafod yn Nhŷ'r Cyffredin ar hyn o bryd, yn rhoi'r hawl i aelodau'r cynulliad i ail enwi'r sefydliad pe bai nhw'n dymuno gwneud hynny.

Dywedodd Jane Hutt, prif chwip Llafur yn y Cynulliad, ei bod hi am fabwysiadu'r enw Senedd Cymru ar y cyfle cynta posib ac i'r term gael ei ddefnyddio yn anffurfiol cyn i'r term gael ei fabwysiadu yn swyddogol.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae Mesur Cymru'n rhoi'r grym i'r Cynulliad ddewis pa bynnag enw y mae'n ei ddymuno."

Er bod yr enw 'Senedd' yn cael ei ddefnyddio nawr, mae'r enw yna yn cyfeirio at yr adeilad ym Mae Caerdydd yn hytrach na'r sefydliad.

Fe fydd aelodau'r Cynulliad yn trafod y mater ddydd Mawrth nesaf.

Fe fydd y cynnig yn dweud "Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno: a) y dylid newid yr enw i 'Senedd Cymru' ar y cyfle cyntaf posib ac (b) y dylai gael ei gydnabod yn answyddogol gan yr enw yna tan fod y newid enwi wedi ei newid yn swyddogol."