Dyn yn euog o lofruddio ei landlord
- Cyhoeddwyd
Alec Warburton (chwith) a David Ellis
Mae dyn wedi'i gael yn euog o lofruddio'i landlord yn Abertawe'r haf diwetha'.
Clywodd y llys fod David Craig Ellis, 41, wedi taro Alec Warburton, 59, yng nghefn ei ben gyda morthwyl yn ei gartre' yn Sgeti fis Gorffennaf 2015, cyn gadael y corff 140 milltir i ffwrdd.
Roedd wedi cyfadde' dynladdiad ond yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Cafodd corff Mr Warburton ei ddarganfod mewn hen chwarel yn Nolwyddelan, sir Conwy, fis ar ôl iddo ddiflannu.
Y Ditectif Sarjant Samantha Thompson yn siarad wedi'r achos
Penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe fod Ellis yn euog yn dilyn achos a barodd bythefnos.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau.