Trydaneiddio: Pryder am effaith oedi

  • Cyhoeddwyd
Tren newydd GWRFfynhonnell y llun, GWR

Mae'r dryswch ynghylch pryd fydd trenau trydan yn dechrau teithio i Abertawe yn effeithio ar fuddsoddiad, yn ôl arweinydd busnes lleol.

Dywed Juliet Luporini, cadeirydd ardal gwella busnes y ddinas, mae cwmniau eisiau dyddiad pendant cyn ymrwymo i unrhyw fuddsoddiad yn y ddinas.

Yn ôl Network Rail, bydd trydaneiddio yn cyrraedd y rhanbarth rhwng 2019 a 2024, ond mae'r union ddyddiad "eto i'w gadarnhau".

Mae'r lein yn cael ei thrydaneiddio er mwyn cyflymu amser y daith o Lundain i Gymru.

Mae gan Abertawe ddau gampws prifysgol yn agor ac mae 'na gynlluniau uchelgeisiol i ailwampio canol y ddinas.

Dywedodd Mrs Luporini, sydd hefyd ar fwrdd ardal ddinesig Bae Abertawe, y dylai Network Rail allu rhoi "sicrwydd" am ddyddiadau a chostau.

Mae hi o'r farn y gallai'r ffaith nad ydyn nhw wedi gwneud hynny gael effaith ar gynllunio busnes a buddsoddiad yn y ddinas.

'Siomedig'

Meddai: "Mae'n siomedig iawn nad yw dyddiad y trydaneiddio yn sicr, gyda chostau, fel ein bod ni'n gwybod yn union beth sy'n digwydd.

"Dydyn ni ddim eisiau'r meddylfryd fod busnes yn stopio yng Nghaerdydd."

Roedd trenau trydan i fod i gyrraedd Caerdydd erbyn 2017 ond mae'r dyddiad hwnnw wedi'i ohirio.

Dywedodd rheolwr rhaglenni Network Rail, Anthea Dolman-Gair, eu bod nawr "wedi cael her" i gwblhau'r trydaneiddio i Gaerdydd erbyn 2019 ac i Abertawe erbyn 2024.

"Rydyn ni ar y ffordd i wneud hynny," meddai.

Costau

Mae'r costau ar gyfer gwaith rhwng Llundain a Chaerdydd wedi cynyddu o'r £1.6bn ar y cychwyn i amcangyfrif o thua £2.8bn.

Daeth adolygiad yn 2015 i'r casgliad fod y cynlluniau gwreiddiol yn "afrealistig" ac "na fyddai modd eu cyflawni" ac mae Network Rail yn dweud bod y gost o drydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe "i'w gadarnhau".

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Mae'r gwaith o drydaneiddio rhwng gorsaf Paddington yn Llundain a Chaerdydd i fod i gael ei orffen rhwng 2014-2019, gydag amcangyfrif bydd cyfanswm y gost yn £2.8bn.

"Mae disgwyl i'r trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe fod wedi'i gwblhau rhwng 2019-2024, gyda'r dyddiad pendant a'r costau i'w cadarnhau."