Euro 2016: Dechrau oes aur i Gymru?
Rhodri Tomos
Gohebydd Cymru Fyw yn Ffrainc
- Published
Ry ni'n gwybod bellach mai Gogledd Iwerddon fydd gwrthwynebwyr Cymru ddydd Sadwrn 25 Mehefin ym Mharis, a hynny ar gae sydd â thipyn o atgofion i Gymru yn hanes y bêl hirgron.
Fe fydd sawl cefnogwr rygbi Cymru, sy'n ddigon hen, yn cofio cais enwog y prop o Bont-y-pŵl, Graham Price, yn y fuddugoliaeth yn Ffrainc yn 1975.
Dyna oedd dechrau oes aur rygbi i Gymru, ac fe gafodd y gêm yna ei chwarae yn y Parc des Princes.
Mae'n bur debyg y daw cadarnhad ddydd Sadwrn nad yw hi'n oes aur i rygbi Cymru ar hyn o bryd, ond ai'r un stadiwm ym Mharis fydd yn gweld dechrau cyfnod hir o lwyddiant i dîm y bêl gron?
Prin fod rygbi'n cael ei chwarae yna o gwbl bellach ac mae'r stadiwm yn gartref i dîm pêl-droed mwyaf llwyddiannus Ffrainc ers rhai blynyddoedd, Paris Saint-Germain.
Ac o safbwynt Cymru, mae pêl-droed yn debyg o dorri ambell record dros y penwythnos i ddod.
Yn ôl un papur Ffrengig, L'Equipe, mae'r Ffrancwyr yn disgwyl oddeutu 50,000 o bobl o Gymru ar gyfer y gêm yn rownd 16 olaf Euro 2016.
Mae hynny'n fwy nag y mae'r stadiwm yn ei ddal, felly mae disgwyl y bydd llawer o'r Cymry yn gwylio'r gêm yn Ardal y Cefnogwyr anferth Paris, gyda lle i dros 86,000 yng nghysgod Tŵr Eiffel.
O safbwynt teledu a sylw'r byd, fe fydd llawer mwy yn gwylio Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon nos Sadwrn, ac mae gorchestion tîm Chris Coleman eisoes wedi dod â Chymru i sylw'r byd...ac mae'r 'byd' pêl-droed yn llawer mwy na'r byd rygbi.
Ar draws Ffrainc, mae cefnogwyr y tîm pêl-droed wedi gwneud enw iddyn nhw'u hunain yn y modd gorau posib hefyd. Mewn cystadleuaeth sydd wedi gweld trafferthion rhwng 'cefnogwyr' ambell wlad arall, mae'r Cymry'n cael dim ond canmoliaeth.
Roedd L'Equipe eto yn disgrifio'r "fyddin goch yn canu a chynnal parti dedwydd i berfeddion nos" yn Toulouse, ac yn cyfeirio at awyrgylch debyg yn Bordeaux a hyd yn oed Lens.
Mae'r papur yn disgrifio'r tîm fel "cerddorfa wych Gareth Bale", ond ef fyddai'r cyntaf i ddweud bod carfan o 23 wedi cyrraedd y safle yma.
Un fuddugoliaeth arall ac fe fydd Cymru wedi mynd cyn belled ag erioed o'r blaen mewn cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol, ond mae dadl gref bod cyrraedd wyth olaf heddiw yn llawer iawn anoddach nag yn 1958.
Tybed a yw'r rhod yn troi i chwaraeon yng Nghymru?
Mae'r cefnogwyr ffyddlon sydd wedi dilyn y tîm pêl-droed i rai o lefydd mwyaf anghysbell y byd dros y blynyddoedd wedi bod yn gwbl sicr mai pêl-droed yw'r gamp genedlaethol.
Gyda chymaint o bobl yn sôn am heidio i Baris dros y dyddiau nesaf, mae'n ymddangos nad yw'r ffyddloniaid yn lleiafrif bellach.
Fe fyddai gôl arall gan Bale, Ramsey, Allen neu unrhyw un o'r lleill sydd wedi dod â Chymru at drothwy hanes yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer...hirach efallai na chais Graham Price.
Ond os dyma ddechrau oes aur i dîm pêl-droed Cymru, pwy a ŵyr na fydd llwyddiant ar lwyfan byd-eang yn dod yn beth mwy cyffredin?