Dim achos cyfreithiol yn erbyn cwmni dronau
- Cyhoeddwyd

Fydd yna ddim camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn erbyn cwmni o Sir Benfro oedd y tu ôl i brosiect aflwyddiannus Zano i gynhyrchu dronau bychain, yn ôl ymchwiliad swyddogol.
Roedd Cyngor Sir Penfro wedi cynnal ymchwiliad i'r Torquing Group ar ôl derbyn cwynion gan y cyhoedd.
Fe wnaeth tua 12,000 o fuddsoddwyr golli arian ar ôl i dros £2m gael ei fuddsoddi yn y prosiect oedd wedi ei leoli yn Noc Penfro.
Ond dywedodd y cyngor nad oedd "yna ddigon o dystiolaeth i gyfiawnhau erlyniad troseddol llwyddiannus".
Fe wnaeth buddsoddwyr golli arian ar ôl i'r cwmni roi ei hun yn nwylo'r gweinyddwr ym mis Tachwedd.
Dywedodd Huw George, aelod o gabinet Sir Benfro gyda chyfrifoldeb am y gwasanaethau rheoleiddio: "Dros gyfnod o chwech mis rydym wedi cynnal ymchwiliad trwyadl i brosiect Zano.
"Rydym wedi dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i sicrhau erlyniad troseddol llwyddiannus - gan gynnwys diffyg tystiolaeth i brofi nad oedd y drôn yn gallu gwneud yr hyn yr honnwyd yn yr hysbysebion gwreiddiol."