Diddymu achos yn erbyn meddyg teulu
- Published
Mae ail achos yn erbyn meddyg teulu, oedd wedi'i chyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth bachgen ysgol o Flaenau Gwent, wedi'i ddiddymu.
Roedd Joanne Rudling yn un o ddau feddyg a gafwyd yn ddieuog o ddynladdiad Ryan Morse, 12 oed, oedd yn diodde' o glefyd Addison.
Roedd Ms Rudling i fod i wynebu achos arall ar gyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ond penderfynodd barnwr yn Llys yr Old Bailey nad oedd digon o dystiolaeth i'w herlyn.
Roedd hi wedi gwadu pob cyhuddiad.