Lluniau: Steddfod ar ei ffordd!

  • Cyhoeddwyd

Daeth cannoedd o bobl ynghyd yng Nghaergybi ddoe ar gyfer Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

Bu'n rhaid gohirio'r orymdaith trwy ganol y dre' oherwydd y tywydd gwael, ond yn y detholiad yma o luniau gan Iolo Penri fe gewch chi flas o'r croeso fydd ar eich cyfer y flwyddyn nesa'.

Mae Cymru Fyw yn ddiolchgar i'r Eisteddfod Genedlaethol am gael dangos y lluniau:

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Fydda hi ddim yn steddfod heb ymbarél
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Siop y Cysgod ydy hon?
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r dorf yn frwdfrydig er gwaetha'r tywydd
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Madarch, yr hogia' lleol yn perfformio ynghanol y dre
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Cyfle i weld hen ffrindiau unwaith eto
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Yr Athro Deri Tomos oedd Ceidwad y Cledd yn absenoldeb Robin McBryde sydd ar daith tîm rygbi Cymru yn Seland Newydd
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Cyfle i gael y newyddion diweddara' am fechgyn Coleman ym Mharis?
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
"'Da ni yn g'wbod y geiriau i hon!"
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r band pres yn mwynhau'r digwyddiad
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Mae cynrychiolaeth dda o aelodau'r Orsedd wedi teithio i Gaergybi
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Y merched yn barod i ddawnsio
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Ar ganiad yr utgyrn...
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
A oes heddwch?
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,
Mae hi'n swyddogol erbyn hyn mai Geraint Lloyd Owen yw'r Archdderwydd. Bydd Geraint Llifon yn dechrau ar ei ddyletswyddau yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni ym mis Awst.