Llwyddiant Euro 2016 werth €14m i bêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae taith y tîm pêl-droed cenedlaethol i'r wyth ola' yn Euro 2016 wedi dod â gwobr ariannol sylweddol yn ei sgil.
Hyd yma mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) wedi ennill €14m o ganlyniad i'r gystadleuaeth.
Byddai yna €4m yn ychwanegol yn dod petai tîm Chris Coleman yn mynd 'mlaen i'r rownd gynderfynol.
A phetai nhw'n ennill y gystadleuaeth, byddai yna €8m arall yn dod i'r coffrau.
Maen nhw'n symiau enfawr yng nghyd-destun CBC, wnaeth elw o £20,000 y llynedd.
Dywedodd y prif weithredwr Jonathan Ford wrth BBC Cymru fod llwyddiant y tîm yn Ffrainc wedi bod yn "freuddwyd sydd wedi dod yn wir".
Ychwanegodd: "I ddweud y gwir mae wedi mynd y tu hwnt i fy mreuddwydion, tu hwnt i freuddwydion y genedl. Cymru drwodd i'r wyth ola' yn Euro 2016 - anhygoel."
Datblygu, hyrwyddo a gwarchod
Bydd yn rhaid i'r gymdeithas wario rhywfaint o'r arian ar westai a chludiant, costau staffio a thaliadau ychwanegol i chwaraewyr, ond bydd y gweddill yn cael ei fuddsoddi yn y gamp ei hun.
"Breuddwyd CBC yw datblygu, hyrwyddo a gwarchod pêl-droed Cymru," meddai Mr Ford.
"A pha well ffordd na gweld ein tîm yn chwarae ar y lefel ucha' yn Ewrop?
"Mae'n bendant yn helpu o ran cyflawni amcanion oedd wedi'u nodi yn ein cynllun strategaeth ac rydyn ni nawr yn gallu cyflawni'r rheiny'n gynt ac yn well na petai ni heb fynd drwodd i Ffrainc.
"Dyma'r tro cynta' i Gymru gystadlu yn un o brif gystadlaethau'r byd ers 58 mlynedd ac mae'r garfan hon bellach wedi cyflawni cystal â'r garfan chwaraeodd yng Nghwpan y Byd yn 1958, a gyrhaeddodd yr wyth ola' cyn colli o 1-0 yn erbyn Brasil."
Wrth ateb a oedd y math yma o lwyddiant bellach i'w ddisgwyl gan Gymru, dywedodd: "Rwyf wir yn gobeithio. Mae'n rhaid i ni edrych ar hyn mewn ffordd gyson.
"Dyw hyn ddim yn ymwneud ag un peth, ond ei wneud yn gyson.
"Dyma obeithio ar ôl hyn - a dydyn ni ddim eisiau i hyn orffen nawr chwaith - y gallwn ganolbwyntio ar Gwpan y Byd 2018 a sicrhau ein ffordd i Rwsia hefyd."