Chwaraewr ail reng Cymru, Andrew Coombs yn ymddeol
- Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr ail reng Cymru a'r Dreigiau Andrew Coombs yn rhoi'r gorau i chwarae rygbi wedi iddo gael anaf ar ei benglin.
Fe wnaeth y clo 31 oed y penderfyniad ar ôl iddo gael cyngor arbennigol i beidio parhau i chwarae.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae wedi cael sawl llawdriniaeth ar ei benglin ar ôl cael anaf yn ystod gêm y Dreigiau yn erbyn y Gleision ym mis Ebrill 2015.
Fe gafodd Coombs 10 cap dros ei wlad. Ei ymddangosiad cyntaf oedd yn 2013 yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad.
Dywedodd Prif Weithredwr y Dreigiau, Stuart Davies: "Roedd Andrew yn uchel ei barch ac yn cael ei werthfawrogi gan eu gyd chwaerwyr ac mae ei ymddeoliad yn golled fawr i bawb yn Rodney Parade. Mi fydden i yn hoffi cydnabod cyfraniad gwych Andrew yn ystod ei saith tymor gyda'r rhanbarth.
"Fe allaf i yn bersonol gydymdeimlo gyda'r problemau mae Andrew wedi wynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a'r penderfyniad anodd mae wedi gorfod gwneud.
"Dw i'n dymuno'r gorau iddo yn y dyfodol."