Seintiau Newydd 2-1 Tre Penne
- Cyhoeddwyd

Fy enillodd y Seintiau Gwpan Cymru, Cwpan y Gynghrair a Chynghrair Cymru yn 2015-16
Mae'r Seintiau Newydd wedi cipio buddugoliaeth yn eu gêm ragbrofol gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Tre Penne o San Marino.
Scott Quigley sgoriodd y gyntaf i dîm Craig Harrison cyn i Stefano Fraternali wneud hi'n gyfartal i'r ymwelwyr.
Fe roddodd Jamie Mullan y Seintiau yn ôl ar y blaen cyn diwedd yr hanner cyntaf wedi gwaith da gan Quigley.
Bu Aeron Edwards o fewn trwch blewyn i'w gwneud hi'n 3-1, ond fe wnaeth golwr Tre Penne Mattia Migani arbediad da.