Chilcot: Cylch gorchwyl 'rhy eang', meddai'r Arglwydd Morris

iRAC Image copyright PA

Mae angen dysgu gwersi o ymchwiliad Irac yn ôl cyn Dwrnai Cyffredinol Tony Blair, yr Arglwydd Morris.

Bydd panel Syr John Chilcot yn cyhoeddi adroddiad hir ddisgwyliedig i achosion ac effaith rhyfel Irac yn 2003 ddydd Mercher nesaf - saith mlynedd ers i'r panel gael ei sefydlu.

Yn ôl yr Arglwydd Morris o Aberafan mae'n "warthus" bod yr ymchwiliad wedi cymryd cymaint o amser.

Mae cyn ymgynghorydd cyfreithiol Mr Blair hefyd wedi dweud wrth raglen Eye on Wales y gallai cylch gorchwyl llai eang fod wedi lleihau'r amser y cymerodd y broses.

Dywed y gallai ymchwiliadau eraill wynebu problemau tebyg oni bai bod newidiadau yn cael eu cyflwyno: "Roedd y cylch gorchwyl yn rhy eang.

"Os bydden nhw wedi bod yn fwy cyfyngedig dw i'n credu bydden ni wedi gobeithio am adroddiad llawer yn gynt.

"Dyw hi ddim yn ymddangos ein bod ni'n dysgu unrhyw wersi. Mae'r ymchwiliad i gyhuddiadau rhywiol gan y barnwr Seland Newydd, Lowell Goddard, dydyn nhw ddim i weld yn dysgu gwersi achos dw i'n credu y bydd hi yma am flynyddoedd lawer yn arwain yr ymchwiliad hwnnw."

Dechreuodd ymchwiliad Irac yn 2009 ac roedd yn ystyried sut y daeth lluoedd arfog Prydain i fod yn rhan o'r ymosodiad ar Irac yn 2003, dan arweinyddiaeth yr UDA.

Cafodd Saddam Hussein ei ddisodli ac fe olygodd yr ymosodiad bod milwyr Prydeinig yn y wlad am chwe blynedd.

Penderfyniad dadleuol

Cafodd 179 o filwyr Prydeinig eu lladd yn ystod y cyfnod yma.

Yn eu plith oedd mab Robert McFerran, Peter o Gei Connah yn 2007: "Roedd e'n filwr, mae'r pethau hyn yn digwydd mewn rhyfel.

"Ond mae rhyfeloedd i fod yn gyfreithiol ac maen nhw fod i ddigwydd er mwyn amddiffyn y wlad. Doedd y rhyfel yma ddim i weld yn ffitio'r categori yna o gwbl."

Roedd y penderfyniad i ymosod ar Irac yn un dadleuol o'r dechrau. Ond pan na chafwyd hyd i'r arfau o ddinistr mawr ac fe gafwyd trais o fewn carfanau yn Irac, roedd rhai yn gofyn a oedd y rhyfel yn un cyfreithiol a chyfiawn.

Ym mis Mehefin 2009 fe gafwyd ymchwiliad, newyddion a gafodd ei groesawu gan Theresa Evans o Landudno.

Image caption Bydd adroddiad Syr John Chilcot yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher

Cafodd ei mab, Llywelyn ei ladd yn ystod oriau cyntaf yr ymosodiad: "Maen nhw o'r diwedd yn gwneud rhywbeth. Mae'r bobl yma yn mynd i droi bob carreg i ganfod y gwir.

"Dyna'r cyfan dw i wedi bod eisiau gwybod, y gwir."

Yn ystod y saith mlynedd diwethaf mae mwy na 150,000 o ddogfennau wedi eu cyflwyno a mwy 'na 150 o dystion wedi rhoi tystiolaeth. Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol fod yn fwy 'na dwy filiwn a hanner o eiriau.

Symud ymlaen

Yn ôl yr hanesydd, James Ellison, o Brifysgol Queen Mary of London mi oedd yr ymchwiliad yn mynd i gymryd amser oherwydd y dasg a'r cylch gorchwyl: "Mae wedi cymryd cymaint o amser am fod yr ymchwiliad wedi bod yn trin a thrafod cymaint o bethau.

"Mae'n delio gyda thri pheth: yr hyn ddigwyddodd cyn y gwrthdaro, y gwrthdaro ei hun a'r ail-adeiladu wedyn.

"Mae'r cylch gorchwyl wedi bod yn anferth ac i fod yn deg, wedi bod yn delio gydag un o faterion mwyaf pwysig... hanes modern y byd."

Bydd Robert McFerran a Theresa Evans yn ymuno gyda theuluoedd eraill yn Llundain ddydd Mercher er mwyn cael rhagolwg ar yr adroddiad.

Gobaith Robert McFerran ydy y bydd yr adroddiad yn rhoi'r cyfle i deuluoedd symud ymlaen gyda'u bywydau: "Gobeithio y caf i ychydig o dawelwch meddwl, achos allwn ni ddim galaru'n iawn- mae angen i ni ddod a'r broses alaru i ben a tra bod hyn i gyd yn digwydd mae'n amhosib."