Mametz: Aberth y Cymry
- Cyhoeddwyd

Mae un frwydr a oedd yn gymharol fechan o'i chymharu â brwydrau mawr y Rhyfel Byd Cyntaf wedi gadael ei hôl yn ddwfn yng Nghymru. Roedd y frwydr am Goedwig Mametz yn rhan o ymgyrch enfawr y Somme ym 1916.
Parhaodd y gyflafan ar y Somme am bedwar mis a hanner ym 1916: dim ond rhwng 7 a 12 Gorffennaf roedd yr ornest am Goedwig Mametz.
Dr Gethin Mathews, darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe sy'n bwrw golwg ar gyfraniad y milwyr o Gymry yn y frwydr:
'Byddin Lloyd George'
Yr arwyddocâd i Gymru yw mai dyma'r frwydr gyntaf yr ymladdodd milwyr y 38th (Welsh Division). Roedden nhw hefyd yn cael eu hadnabod â chryn gyfiawnhad fel 'Byddin Lloyd George'.
Galwodd Lloyd George yn ei areithiau i Gymru ddarparu ei byddin gyntaf ers dyddiau Glyndŵr, ac fe ymatebodd dynion ifanc Cymru yn eu miloedd.
Wedi iddyn nhw gael eu hyfforddi, yn bennaf yng Nghymru, fe gyrhaeddodd y recriwtiaid hyn Ffrynt y Gorllewin tua diwedd 1915, ac fe gawson nhw brofiad o fywyd y ffosydd mewn rhai o'r sectorau tawel am rai misoedd.
Yna, chwe diwrnod wedi i'r ymgyrch ddechrau ar y Somme, fe gafodd yr Adran hon y dasg o glirio Coedwig Mametz, sef coedwig drwchus a oedd wedi'i throi'n amddiffynfa gadarn gan y milwyr Almaenig a oedd wedi ei dal ers dwy flynedd. Yn wynebu'r Cymry brwdfrydig ond di-brofiad oedd un o unedau cadarnaf byddin yr Almaen, catrawd Lehr.
Fodd bynnag, wedi i'r Cymry lwyddo i ennill y dydd, fel y nododd Colin Hughes yn ei lyfr o 1982 am y frwydr, chafodd y milwyr ddim unrhyw glod swyddogol am eu gwrhydri ond yn hytrach fe gawson nhw eu hanfon i rywle tawel yn bell i ffwrdd o'r ymladd.
Mae crynhoad o'r ymateb swyddogol yn y cofnod yn nyddiadur y Cadfridog Haig: 'Ni wnaeth y 38th Welsh Division ... symud ymlaen i ymosod gyda digon o benderfyniad.'
Dycnwch y Cymry
Mewn gwrthgyferbyniad ag agwedd nawddoglyd uchel-swyddogion y Fyddin, yr ymateb yng Nghymru oedd ymffrostio yn newrder a dycnwch y milwyr Cymreig. O fewn wyth diwrnod i'r frwydr cyhoeddodd papurau newydd lythyrau a oedd ag adroddiadau person-cyntaf o'r ymladd, rhai ohonyn nhw'n fanwl eu disgrifiadau. Ym mhob un o'r adroddiadau mae yna ddatganiadau o falchder bod y milwyr o Gymru wedi profi eu hunain yn ddewr.
Felly, fel y mae'r farddoniaeth gafodd ei hysgrifennu gan y milwyr eu hunain yn awgrymu, roedd ymgais gan y dynion a ymladdodd yn y frwydr i hybu balchder yn eu gorchestion. Mae adroddiad diddorol o fis Medi 1916 sy'n disgrifio criw o filwyr Cymreig yn Ffrainc yn bloeddio 'Pwy gliriodd y Germaniaid o Mametz Wood? Y milwyr Cymreig'.
Fe ddaeth pwysau ychwanegol oddi uchod i goffâu'r frwydr fel 'brwydr Gymreig'. Pan fu i Lloyd George ymweld â recriwtiaid Cymreig ym mis Awst 1916 yn y gwersyll enfawr ym Mae Cinmel - fe'u hysbrydolodd gydag araith a gyhoeddodd mai 'Y Fyddin Gymreig yrodd y gelyn ar ffo o Goed Mametz'.
Yn yr ewfforia a ddaeth wedi'r 'fuddugoliaeth' yn 1918 fe gafodd nifer o gerddi eu cyfansoddi am wrhydri'r Cymry ar faes y gad, a nifer ohonyn nhw yn canolbwyntio ar Goedwig Mametz.
Un o'r goreuon o'r hunan-gofiannau gan filwr Cymreig yw Up to Mametz, a gyhoeddodd Llewelyn Wyn Griffith ym 1931. Y paentiad Cymreig enwocaf o'r Rhyfel yw gwaith Christopher Williams, The Welsh Division at the Battle of Mametz Wood.
Felly yn y 1980au pan gododd diddordeb ym mhrofiadau milwyr y Rhyfel Mawr, wrth i'r nifer o dystion leihau, fe ddwyshaodd y sylw ar yr hyn wnaeth y Cymry yn Nghoedwig Mametz. Cafodd cofeb drawiadol David Petersen ei chodi ar y safle. Ar y lefel leol, fe barodd atseiniad enw Mametz mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.