Gareth Thomas yn ymweld â Mametz Wood yn Ffrainc
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyn chwaraewr rygbi, Gareth Thomas, wedi olrhain hanes ei gyndadau o'r Cymoedd i Mametz Wood.
Fe wnaeth cyn gapten Cymru ymweld â safle'r frwydr yn Ffrainc ble bu farw cannoedd o filwyr o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd dau hen ewythr iddo ymysg y rheiny a gollodd eu bywydau yn brwydro yn erbyn Byddin yr Almaen yn y Somme.
Mae Thomas wedi dilyn ôl eu traed gyda'i rieni gan geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd iddyn nhw.
"Dwi eisiau dysgu am fy ewythrod oherwydd mod i'n teimlo ei bod hi'n ddyletswydd," meddai.
"Rwy'n credu bod gan unrhyw un sydd â hanes a chysylltiad gyda'r bobl a roddodd eu bywydau ar gyfer y ffordd rydym yn byw ein bywydau nawr, mae ond yn iawn ein bod ni'n darganfod beth aeth y bobl yma drwodd."
Roedd Mametz Wood yn rhan allweddol yn strategol ym Mrwydr y Somme - gwrthdaro rhwng yr unedau Prydeinig a'r Almaenwyr a ddigwyddodd am bum mis ar hyd ffrynt o 15 milltir.
Bu farw dau o ewythrod Thomas, Edward, 20, a William, 24, yn y Somme, ond does gan y teulu ddim syniad beth ddigwyddodd iddyn nhw.
Roedden nhw ymysg y 1,500 o filwyr o'r Cymoedd wnaeth ddim dod yn ôl o'r Ail Ryfel Byd.
Cafodd milwyr o Gymru eu gyrru i Ffrainc gydag ychydig iawn o brofiad a wrth ymarfer, cawson nhw eu gorfodi i ddefnyddio ysgubau yn hytrach na drylliau.
Dywedodd Thomas: "Rwy'n hynod o falch o'r ffaith eu bod nhw wedi mynd i ryfel gan roi eu bywyd i'n gwlad. Felly i mi, dwi ddim eisiau nhw byth gael eu hanghofio.
Wales at the Somme, 4 Gorffennaf, BBC One Wales, 21:00