Dathlu canrif ers sefydlu archesgobaeth Babyddol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae dathliadau yn cael eu cynnal yn Archesgobaeth Babyddol Caerdydd, gan nodi 100 mlynedd ers ei sefydlu.
Dywedodd yr Archesgob George Stack bod 2016 yn ddathliad o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
"Mae esgobaeth Caerdydd wedi gwneud cyfraniad aruthrol i fywyd a diwylliant y ddinas a'r siroedd," meddai.
"Mae gennym ni tua 50 o eglwysi a 50 o ysgolion ar draws yr ardal felly mae yna deimlad aruthrol o undod rhyngddyn nhw a'r esgobaeth.
Dyma gyfle i "adlewyrchu ar ein hanes", meddai'r Parchedig Peter Collins.
Yn rhan o'r dathliadau bydd Gŵyl Flodau yn cael ei chynnal yn Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Caerdydd.
Mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi helpu gyda'r gwaith, fydd i'w weld tan ddydd Llun.