Nigel Farage i ymddiswyddo fel arweinydd UKIP
- Cyhoeddwyd

Mae Nigel Farage wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd UKIP.
Dywedodd Mr Farage ei fod wedi "gwneud ei ran" yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd hefyd fod y blaid mewn "lle eithaf da" a "na fyddai'n newid ei feddwl" am roi'r gorau iddi fel y gwnaeth ar ôl etholiad cyffredinol 2015.
"Mae arwain UKIP wedi bod yn anodd ar adegau, ond roedd pob ymdrech o werth," meddai.
Ychwanegodd Mr Farage ei fod wedi "brwydro i gael ei wlad yn ôl, nawr mae o am gael ei fywyd yn ôl".
Wrth ymateb i'r newydd, dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Nathan Gill: "Mae Nigel wedi sefyll i fyny dros ei wlad dro ar ôl tro.
"Mae wedi cyflawni'r hyn yr oedd yn ei fwriadu ei wneud, ac ni all llawer o wleidyddion ddweud hynny. I mi, mae wedi bod yn fraint o gael gweithio gyda Nigel, ac rwy'n falch i allu ei alw yn gyfaill."
Dyw Mr Gill ddim wedi dweud naill ffordd neu'r llall os bydd yn sefyll yn y ras i fod yn arweinydd UKIP ym Mhrydain.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad ac arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, y dylai pawb wnaeth bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd fod yn ddiolchgar i Mr Farage: "Fyddai yna ddim refferendwm oni bai amdano.
"Mae'n ffigwr dadleuol ond os ydych yn ei hoffi neu ei gasáu, mae'n ffigwr deinamig ac yn un o ffigyrau mwyaf gwych sydd yn bodoli yng ngwleidyddiaeth Prydain heddiw.
"Mae ganddo dal lawer i gynnig yn yr ymgyrch i gael Prydain annibynnol. Fe ddylai gael ei urddo'n arglwydd."