Achos Kyle Kennedy: Gyrru ar gyflymder o 70 mya

Simon Image copyright Wales News Service
Image caption Simon Lewis gyda'i wraig Amanda

Cafodd tad ei ladd mewn damwain gan ddyn oedd yn gyrru ar gyflymder o 70 milltir yr awr.

Dyna mae'r rheithgor wedi clywed yn llys y goron Caerdydd ddydd Llun.

Cafodd Simon Lewis, 33 ei ladd pan geisiodd Kyle Kennedy ei oddiweddyd noson Calan Gaeaf yn Nhremorfa, Caerdydd.

Roedd ei wraig feichiog, Amanda hefyd yn y car ac fe gollodd hi'r plentyn dridiau wedyn.

Clywodd y llys bod Mr Kennedy yn gyrru ar gyflymder o 70 mya mewn ardal 40 mya pan ddigwyddodd y ddamwain.

Dywedodd yr erlynydd, Matthew Cobbe: "Roedd hyn yn bendant yn yrru peryglus. Roedd y cyflymder eithafol a'r ffaith ei fod wedi goddiweddyd heb edrych yn golygu nad oedd gan Simon Lewis unrhyw obaith o geisio ei osgoi."

Image copyright Wales News Service
Image caption Dywedodd Kyle Kennedy nad oedd yn cofio'r hyn ddigwyddodd

Dywedodd y llygad dyst, Jessica Brown ei bod wedi gweld "cwmwl o fwg" wrth i'r ceir daro ei gilydd.

Meddai Mr Cobbe: "Doedd Jessica Brown ddim yn gallu gweld beth oedd yn digwydd ond fe welodd hi gwmwl o fwg. Gofynnwyd iddi amcangyfrif pa mor gyflym roedd yn gyrru. Fe ddisgrifiodd hi'r cyflymder fel 'cyflymder traffordd" a dywedodd ei fod yn gyrru ar gyflymder o tua 70 mya.

"Roedd yr ergyd mor sylweddol fel y symudodd injan y ddau gar."

Mae Kyle Kennedy yn gwadu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus ond mae wedi pledio yn euog i un cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru yn ddiofal.

Dywedodd wrth ymchwilwyr nad oedd yn gallu cofio'r ddamwain.

Mae'r achos yn parhau.