Gwrthdrawiad Abertawe: Cyhoeddi enw dynes fu farw

Kelly Kennedy Image copyright Google
Image caption Bu farw Kelly Kennedy wedi'r gwrthdrawiad ar yr A4067

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes 25 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A4067 yn Abertawe.

Bu farw Kelly Kennedy o ardal Clydach yn y gwrthdrawiad rhwng Glais a Phontardawe am tua 22:15 nos Lun.

Mae ei theulu wedi ei disgrifio fel "ein ffrind gorau, a chraig gadarn i'w brawd".

Mae dau ddyn gafodd eu harestio yn dilyn y digwyddiad yn parhau yn y ddalfa.

Roedd Ms Kennedy yn gyrru Ford Ka arian fu mewn gwrthdrawiad â Honda Civic gwyrddlas.

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion i'r digwyddiad neu unrhyw un welodd un o'r ceir cyn y gwrthdrawiad.