Euro 2016: Cyngor i beidio dod â phlant ar y cae

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gareth Bale yn dathlu ar y cae gyda'i ferch, Alba

Mae trefnwyr wedi gofyn i chwaraewyr Cymru i beidio dod â'u plant ar y cae ar ôl y gêm yn Lyon nos Fercher am "nad yw'n lle diogel".

Mae chwaraewyr fel Gareth Bale, Hal Robson-Kanu ac Ashley Williams wedi dathlu ar y cae gyda'u plant ar y ffordd i'r rownd gynderfynol.

Ond mae'r trefnwyr, UEFA wedi dweud: "Pencampwriaeth Ewrop ydi hi, dim parti teulu."

Bydd Cymru yn wynebu Portiwgal yn Lyon ar ôl trechu Gwlad Belg o 3-1 nos Wener.

Dywedodd cyfarwyddwr y bencampwriaeth, Martin Kallan: "Dydi'r stadiwm ddim y lle mwyaf diogel i blant bach pe bai cefnogwyr yn gwthio eu ffordd ar y cae, a gyda staff yn gweithio gyda pheiriannau arno."

Yn ôl swyddog UEFA: "Maen nhw'n lluniau neis. Dydyn ni ddim yn ei erbyn 100% ond rydyn ni'n wyliadwrus."

Image copyright Getty Images
Image caption Bu plant Neil Taylor, Madison a Marley, ar y cae ym Mharis a Lille