Cofio brwydr Coedwig Mametz

Published
image captionGwasanaeth Mametz

Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal ym Mametz ddydd Iau, i gofio'r cannoedd o filwyr o Gymru a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Mawr.

Yn arwain dirwyaeth o Gymru roedd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones.

Yno hefyd roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Leanne Wood o Blaid Cymru, Andrew RT Davies, Ceidwadwyr Cymru a Neil Hamilton o UKIP.

Daeth torf o bobl at ei gilydd o amgylch y safle lle dechreuodd milwyr o Gymru eu cyrch i geisio cipio'r goedwig oddi wrth y gelyn.

image captionDaeth cannoedd i'r gwasanaeth coffa ym Mametz
image captionPentref Mametz yn croesawu'r Cymru drwy chwifio baneri'r ddraig goch ar y strydoedd

Cafodd tua 4,000 o filwyr o Gymru eu lladd neu eu hanafu yn ystod pum diwrnod o frwydro.

Y bwriad ar 7 Gorffennaf 1916 oedd cipio Coedwig Mametz - y goedwig fwyaf yn ardal y Somme - fel rhan o'r cyrch enfawr i geisio chwalu llinell amddiffynnol yr Almaenwyr.

Roedd y milwyr yn 1916 yn lowyr, yn ffermwyr ac yn weithwyr banc, ac wedi ymuno gyda'i gilydd fel criw o ffrindiau i'r 38ain Adran (Gymreig).

Dyma oedd "Byddin Gymreig" chwedlonol David Lloyd George.

image copyrightGetty Images
image captionCofeb Gymreig Mametz gafodd ei hariannu drwy gyfraniadau cyhoeddus

Fe fydd yna hefyd seremonïau yng Nghymru i gofio am y frwydr union 100 mlynedd yn ôl.

Yng Nghaernarfon, bydd Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Cymreig yn gwahodd plant ysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cofio'r Rhyfel Mawr.