Lluniau: Croeso nôl!

Published

Mae wedi bod yn fis bythgofiadwy i Gymru wrth i'r tîm pêl-droed cenedlaethol gyrraedd rownd gyn-derfynol Euro 2016.

Mae carfan Chris Coleman wedi codi ysbryd y genedl ac ar ddydd Gwener 8 Gorffennaf bu dathliadau mawr yng Nghaerdydd wrth iddyn nhw ddod adref o Ffrainc.

Dyma rai o uchafbwyntiau'r diwrnod trwy lens Sioned Birchall, ffotograffydd Cymru Fyw yn y digwyddiad.

image copyrightBBC Sport
image captionAaron Ramsey yn tynnu hunlun a un o dyrrau Castell Caerdydd
image captionDal y foment ar gof a chadw
image captionChris Coleman a'i gyd-hyfforddwr Osian Roberts yn camu allan o'r castell
image captionBws y garfan yn mynd am y stadiwm
image captionY garfan ar ben y bws, gyda Bale, Ramsey a Hennessey yn arwain ar y blaen
image captionMôr o goch ar Heol Santes Fair
image captionBloeddiwch dros Gymru!
image captionPlant wedi gwirioni wrth weld eu harwyr yn mynd heibio
image captionFe drodd Caerdydd yn goch am y diwrnod
image captionPawb yn rhan o gyffro'r diwrnod
image captionTai yn cael eu haddurno ar hyd y daith
image captionYr Heddlu yn dangos eu teyrngarwch
image captionNicky Wire a Sean Moore o'r Manic Street Preachers yn camu i'r llwyfan
image captionY Manics Street Preachers yn canu 'Together Stronger' ac ambell glasur arall
image captionY Galactico Gareth Bale yn cael ei gyflwyno i'r dorf
image captionJames Collins ar ei ffordd i ganol y cae
image captionCefnogwyr o bob oed yn mwynhau yn Stadiwm Dinas Caerdydd
image captionY chwaraewyr canol cae Aaron Ramsey a Jonny 'Joniesta' Williams
image copyrightBBC Sport