Cais cynllunio am sinema ac ardal bwytai yn Hwlffordd

Published
image copyrightFletcher Rae (UK) Ltd
image captionDyluniad artist o'r datblygiad arfaethedig

Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Penfro ar gyfer sinema ac ardal bwytai yn Hwlffordd.

Mae'r datblygwyr, Conygar eisiau adeiladu'r datblygiad ar dir ar Heol Slade.

Roedd cynllun yn y gorffennol i adeiladu archfarchnad Sainsbury's ar y safle ond fe wnaeth y cwmni roi'r gorau i'r prosiect y llynedd.

Byddai'r datblygiad yn cynnwys sinema pum sgrîn, pum bwyty a maes parcio ar gyfer 168 o geir.

Dywedodd y cyngor eu bod yn croesawu sylw gan y cyhoedd ar y cais.