Euro 2016: Rhybudd i Gymru am ddod a phlant ar y cae

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gareth Bale yn dathlu ar y cae gyda'i ferch, Alba

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi derbyn rhybudd gan UEFA wedi i chwaraewyr ddod a'u plant ar y cae i ddathlu eu buddugoliaethau yn Euro 2016.

Fe wnaeth chwaraewyr fel Gareth Bale, Hal Robson-Kanu ac Ashley Williams rannu eu dathliadau ar y cae gyda'u teuluoedd ar ôl trechu Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg yn Ffrainc.

Cafodd chwaraewyr Cymru gais gan UEFA i beidio â dod a'u plant ar y cae ar ôl y rownd gynderfynol am "nad yw'n le diogel".

Mae'r gymdeithas bêl-droed wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

Dywedodd llefarydd ar ran UEFA: "Mae Corff Rheolaeth, Moeseg a Disgyblaeth UEFA wedi delio gyda'r achos yma, ac fe benderfynwyd rhoi rhybudd i Gymdeithas Bêl-droed Cymru."

Cyn y gêm yn erbyn Portiwgal nos Fercher, dywedodd UEFA: "Pencampwriaeth Ewrop ydi hi, dim parti teulu."

Ychwanegodd gyfarwyddwr y bencampwriaeth, Martin Kallan: "Dydi'r stadiwm ddim y lle mwyaf diogel i blant bach pe bai cefnogwyr yn gwthio eu ffordd ar y cae, a gyda staff yn gweithio gyda pheiriannau arno."

Image copyright Getty Images
Image caption Bu plant Neil Taylor, Madison a Marley, ar y cae ym Mharis a Lille