Sir Gaerloyw yn rhoi cweir i Forgannwg yng Nghaerdydd

Michael Klinger Image copyright Getty Images
Image caption Michael Klinger oedd prif sgoriwr Sir Gaerloyw gyda 56

Cafodd Morgannwg gweir gan Sir Gaerloyw yn y T20 yng Nghaerdydd ddydd Sul wrth i'r ymwelwyr ennill o naw wiced.

Roedd y tîm cartref wedi ei chael hi'n anodd ymdopi ar y wiced araf a dim ond Graham Wagg lwyddodd i gael sgôr o fwy na 25.

Fe wnaeth Sir Gaerloyw gymryd mantais llawn gan wybod mai dim ond 120 oedden nhw ei angen i guro, wrth i Michael Klinger ac Ian Cockbain sgorio hanner cant yr un.

Yn y diwedd llwyddodd yr ymwelwyr i gyrraedd eu targed gyda bron i bedair pelawd i'w sbario.