Owen Smith: 'Corbyn yn barod i weld Llafur yn hollti'

Owen Smith a Jeremy Corbyn

Mae Jeremy Corbyn a'i gefnogwyr yn ddigon parod i weld y Blaid Lafur yn hollti, yn ôl AS Pontypridd Owen Smith.

Dywedodd Mr Smith ei fod yn ceisio trefnu cyfarfod gyda'r arweinydd ddydd Llun i geisio gwella'r rhaniadau.

Mae Mr Corbyn, sy'n wynebu her i'w arweinyddiaeth gan Angela Eagle, wedi dweud ei fod wedi'i synnu gan sylwadau Mr Smith.

Cafodd Mr Corbyn ei ethol yn arweinydd gan aelodau'r blaid, ond mae llawer o Aelodau Seneddol yn ei wrthwynebu.

Mae wedi wynebu heriau i'w awdurdod fel arweinydd wedi iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder ac mae wedi gwrthod galwadau gan nifer i gamu o'r neilltu.

Mae adroddiadau hefyd bod Mr Smith, sydd wedi camu o'i rôl fel llefarydd y blaid ar les, yn ystyried herio Mr Corbyn am yr arweinyddiaeth.

'Dim syniad'

"Dydw i ddim yn barod i weld ein plaid yn hollti," meddai Mr Smith ar Twitter.

"Rydw i wedi gofyn i gwrdd â Jeremy eto yfory i weld sut y gallwn ni osgoi hynny."

Yn siarad ar raglen Andrew Marr y BBC, fe wnaeth Mr Corbyn wadu iddo ddweud wrth Mr Smith y byddai'n well ganddo weld y blaid yn hollti nac ymddiswyddo.

"Does gen i ddim syniad pam fyddai Owen yn dweud y fath beth," meddai.

"Rydw i'n hapus i gael trafodaeth gydag Owen unrhyw amser fel y gallwn ni drafod y ffordd orau ymlaen."