Arweinwyr ysgolion yng Ngwynedd 'dan bwysau'

plant Image copyright PA

Arweinyddiaeth dda ydi'r prif ffactor sy'n hyrwyddo addysg o'r ansawdd orau, dyna farn y corff arolygu Estyn ac arbenigwyr ym maes addysg.

Ond yng Ngwynedd, oherwydd maint rhai o'r ysgolion, mae arweinwyr yn dweud eu bod yn cael eu llyffetheirio oherwydd eu bod yn gorfod dysgu yn ogystal ag arwain.

Mae'r awdurdod wedi comisiynu adroddiad gan ddau ymgynghorydd addysg, sydd wedi dod i'r casgliad nad yw'r trefniadau presennol yn briodol a bod angen gweithredu yn ddiymdroi.

"Dydi'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy ac mae angen newid pethau," medd yr awdurdod.

Dywed yr ymgynghorwyr fod cryn nifer o arweinwyr ysgol dan bwysau a bod eu morâl a'u lles yn achos pryder mawr.

Trafod egwyddorion

Fe fydd aelodau Cabinet y Cyngor yn trafod yr egwyddorion y dylid eu defnyddio wrth gynllunio dyfodol addysg yn y sir mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

Dywedodd y cynghorydd Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am addysg ar Gabinet Cyngor Gwynedd, fod penaethiaid ysgolion wedi dweud wrth yr awdurdod addysg fod eu llwyth gwaith yn "sylweddol iawn" ac yn cynyddu oherwydd eu bod yn treulio cymaint o amser yn y dosbarth.

Dywedodd hefyd fod diffyg ymgeiswyr am swyddi yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd.

"Mae morâl staff yn gostwng ac mae rhaid gweithredu," meddai.

Mae'r ddogfen yn trafod yr angen i sefydlu rhai egwyddorion sylfaenol.

Yn y 95 Ysgol Gynradd, dylid anelu at gynnig 80% o amser digyswllt i'r pennaeth a cheisio sicrhau ysgolion gyda dosbarthiadau o ddim mwy na dau oedran.

Ysgolion aml safle

Er mwyn cyflawni hynny, mae'n bosib y byddai rhai ysgolion yn cau, ac os nad oes ysgol gyfagos allai dderbyn y plant, yna mae'r adroddiad yn awgrymu sefydlu ysgol aml safle, neu godi ysgol ardal newydd.

Yn ôl Cadeirydd Ffederasiwn Prifathrawon Cynradd Gwynedd, Cai Larsen: "Be' sy'n fy mhoeni i ydi fod yr adroddiad yn awgrymu fod yna fygythiad i ysgolion hefo tri neu lai o athrawon, ac ysgolion felly ydi'r norm mewn rhannau helaeth o Wynedd."

"Ac hefo'r holl bwysau sydd ar athrawon y dyddiau yma, mae'r bygythiad yna yn rhoi pwysau ychwanegol ac yn taflu cysgod dros yr ysgolion hynny."

Mae yna 14 o Ysgolion Uwchradd yn y sir ond mae 11 o'r rheini hefo llai na 500 o blant, a dwy ysgol hefo llai na 300. Mae'r adroddiad yn argymell cadw'r safleoedd yn agored ond lleihau nifer yr ysgolion i chwech neu saith.

Dywedodd Neil Foden, cadeirydd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon yr NUT yng Nghymru: "Wnawn ni ddim gwrthwynebu'n awtomatig unrhyw gais i ad-drefnu cyn belled a'i fod yn diogelu swyddi staff, bod yna ddim un disgybl sy'n gorfod teithio pellter afresymol a bod pob cymuned yn cael mynediad at ysgol, ond dydi hynny ddim yn golygu fod yna ysgol ym mhob cymuned. Ond mae cyflawni hynny yn mynd i fod yn broblemus, yn enwedig yn ne'r sir."

Y tro diwethaf i Gyngor Gwynedd drafod dogfen ynglŷn ag ad-drefnu addysg ledled y sir oedd yn 2008. Roedd y ddogfen honno yn argymell cau 29 o ysgolion a ffederaleiddio 55.

Arweiniodd hynny at sefydlu Plaid Llais Gwynedd a gipiodd 12 o seddau ar y cyngor y flwyddyn honno gan olygu fod Plaid Cymru wedi colli rheolaeth lwyr. Bydd yna etholiad eto'r flwyddyn nesaf.