Cronfa gyffuriau newydd gwerth £80m i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd y llywodraeth yn sefydlu cronfa newydd gwerth £80m fydd o gymorth i gleifion yng Nghymru sydd yn dioddef o salwch sydd yn bygwth neu gyfyngu ar hyd eu bywydau i dderbyn cyffuriau newydd yn gyflymach.
Dywedodd Mr Gething ei fod yn rhagweld y byddai'r gronfa'n weithredol o fis Rhagfyr eleni.
Ychwanegodd y byddai'r gronfa yn cynnig gwerth 12 mis o arian i arbrofi gyda chyffuriau newydd sydd wedi eu nodi fel rhai cost-effeithiol gan banel o arbenigwyr.
Byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i alluogi meddygon i ddefnyddio'r cyffuriau hyn yn gynt, cyn i fyrddau iechyd fabwysiadu'r gost o dalu am eu cynnig i gleifion.
Roedd sefydlu cronfa driniaeth £80m yn un o brif addewidion maniffesto'r blaid Lafur yn ystod yr ymgyrchu yn etholiad y Cynulliad.
Adolygiad
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd hefyd y byddai Llywodraeth Cymru'n cynnal adolygiad i'r broses o geisio am feddyginiaethau newydd sydd heb eu cadarnhau fel rhai cost-effeithiol gan banel o arbenigwyr.
Bydd yr adolygiad yn edrych ar gysondeb penderfyniadau o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan edrych hefyd ar y meini prawf ar gyfer cleifion sy'n gwneud ceisiadau am feddyginiaeth drwy'r hyn sy'n cael ei alw'n Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol.
Ar hyn o bryd rhaid i glaf fod yn 'achos unigryw' er mwyn i arian gael ei glustnodi ar gyfer meddyginiaethau.
Roedd pryderon wedi codi am system loteri i gleifion wrth ddefnyddio'r drefn Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol.
Dywedodd Mr Gething fod yr adolygiad wedi cael ei sefydlu yn dilyn trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau.
Roedd ymrwymiad i ddod a loteri cod-post cyffuriau newydd i ben yn rhan ganolog o'r trafodaethau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru yn gynharach eleni - trafodaethau oedd yn gyfrifol am weld Carwyn Jones yn cael ei benodi'n brif weinidog.
'Anghysonderau'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Jon Antoniazzi, swyddog polisi gydag elusen Tenovus Cancer Care:
"Mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru'n bod yn agored yn eu hagwedd tuag at daclo rhai o'r anghysonderau y mae ymgyrchwyr ar ran cleifion wedi eu darganfod yn y broses bresennol o ariannu cyffuriau cost uchel yng Nghymru, yn dilyn ei thrafodaethau gyda Phlaid Cymru.
"Mae'n newyddion positif i weld ymrwymiad i adolygiad o Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol fydd yn cynnwys arbenigwyr o du hwnt i Gymru.
"Nid mater i wasanaeth iechyd Cymru'n unig yw triniaethau cost uchel, ond un sydd yn effeithio ar y mwyafrif o wasanaethau iechyd mwyaf modern wrth i ni wneud triniaethau'n fwy personol.
"Bydd dod o hyd i arbenigedd o du hwnt i Gymru a hyd yn oed y DU yn sicrhau y gallwn greu'r system orau bosib i gleifion."