Apêl wedi damawin angheuol

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am dystion, wedi i ddynes farw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Ddinbych ddydd Iau.

Cafodd dynes yn ei 40au, oedd yn cerdded ar y pryd, anafiadau drifriol a'i chludo i Ysbyty Glan Clwyd lle bu farw yn ddiweddarach.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Toyota GT a Volkswagen Polo ar Ffordd Russell yn Y Rhyl tua 16:50.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw, ac maen nhw'n awyddus i glywed gan yrrwr car bach lliw arian.

Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 gan ddefnyddio'r rhif cyfeirnod U103375.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.