Gwrthdrawiad: Cerddwr wedi'i hanafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd

Mae cerddwr wedi cael ei hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Ddinbych.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Toyota GT a Volkswagen Polo ar Ffordd Russell yn Y Rhyl am tua 16:50 ddydd Iau.
Cafodd y ddynes, sydd yn ei 40au, ei chymryd i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio i unrhyw dystion gysylltu â'r llu.