Disgwyl i Kit Symons gael ei ailbenodi fel hyfforddwr
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Kit Symons gael ei ailbenodi'n un o hyfforddwyr cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru yn lle rheolwr newydd Caerdydd, Paul Trollope.
Cafodd Trollope ei benodi i'w rôl newydd gyda chlwb y brifddinas ym mis Mai eleni, gan olynu Russell Slade, gan wneud y swydd honno law yn llaw â'i swydd fel hyfforddwr gyda charfan Cymru yn ystod Ewro 2016.
Gyda thymor newydd yr Adar Gleision yn prysur agosáu fodd bynnag, bydd Trollope nawr yn canolbwyntio ar faterion gyda'i glwb yn hytrach na'r lefel rhyngwladol.
Mae hynny'n agor y drws i Symons, oedd yn is-reolwr i Chris Coleman gyda'r tîm cenedlaethol rhwng 2012 a 2015 cyn gadael er mwyn canolbwyntio ar swydd lawn amser fel rheolwr Fulham.
Ymgyrch newydd
Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch ragbrofol nesaf i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2018 ar 5 Medi, pan fyddan nhw'n herio Moldofa yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Y gwrthwynebwyr eraill yn eu grŵp fydd Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon a Georgia, gydag enillydd y grŵp yn hawlio lle yn y gystadleuaeth yn Rwsia ymhen dwy flynedd a'r tîm sydd yn gorffen yn ail yn cael siawns o fynd drwyddo yn y gemau ail gyfle.
Fe allai Kit Symons ddychwelyd fel aelod o dîm hyfforddi Cymru erbyn dechrau'r ymgyrch honno, gan gynorthwyo Chris Coleman a'r is-reolwr presennol Osian Roberts.
Roedd Symons a Coleman yn gyd-chwaraewyr yn nhîm Cymru yn y 1990au a'r 2000au cynnar, a bu'r ddau ffrind hefyd yn chwarae gyda'i gilydd yng nghlwb Fulham am gyfnod.