Y Seintiau Newydd am 'hedfan y faner' yn Ewrop

seintiau newydd Image copyright Gareth Hughes

Mae gôl-geidwad Y Seintiau Newydd, Paul Harrison, wedi dweud fod ei dîm yn benderfynol o barhau i 'chwifio'r faner' dros bêl-droed Cymru wrth iddyn nhw geisio creu hanes yn Ewrop.

Yn dilyn haf bythgofiadwy i'r tîm cenedlaethol yn Ewro 2016, fe fydd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru'n parhau â'u siwrne Ewropeaidd eu hunain nos Fawrth wrth iddyn nhw herio APOEL Nicosia yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Fe orffennodd hi'n 0-0 yn Neuadd y Parc yn y cymal cyntaf rhwng y ddau dîm yn ail rownd rhagbrofol gystadleuaeth yr wythnos ddiwethaf, ac yn ôl y rheolwr Craig Harrison fe fydd y pwysau i gyd ar y gwrthwynebwyr o Gyprus yn yr ail gymal.

Dim ond unwaith yn hanes y clwb y mae'r Seintiau Newydd wedi cyrraedd y drydedd rownd rhagbrofol.

Adeg hynny fe gollon nhw 6-1 dros ddau gymal yn erbyn Anderlecht - y pellaf mae unrhyw dîm o Uwch Gynghrair Cymru erioed wedi mynd yn y gystadleuaeth.

Bydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr y tymor yma yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin 2017.

Her yn y gwres

Mae gan APOEL Nicosia hanes disglair yn y gystadleuaeth, gan gyrraedd rownd yr wyth olaf yn 2011/12 a threchu timau fel Porto, Lyon a Zenit St Petersburg ar y ffordd cyn colli i Real Madrid.

Ond ar ôl gweld ei dîm yn sicrhau canlyniad di-sgôr yn y cymal cyntaf, mae rheolwr y Seintiau Newydd yn mynnu bod gan bencampwyr Cymru obaith o sicrhau buddugoliaeth hanesyddol eu hunain: "Os allwn ni gyrraedd hanner amser gyda'r sgôr yn 0-0 unwaith eto fe fydd pwysau mawr arnyn nhw," meddai Craig Harrison.

Ychwanegodd y golwr a'r capten Paul Harrison y byddai gan y Seintiau her enfawr o'u blaenau o ystyried safon y gwrthwynebwyr a'r gwres llethol yng Nghyprus, ond fod gan y tîm bob siawns o greu sioc:

"Mae pêl-droed Cymru wedi denu tipyn o sylw felly gobeithio y gallwn ni barhau i hedfan y faner."