Cynhadledd i drafod signal ffôn gwael yng nghefn gwlad

Signal ffôn Image copyright Getty Images

Bydd cwmnïau ffôn a gweinidogion ymysg y rhai fydd yn cymryd rhan mewn cynhadledd yn yr hydref i drafod signal ffôn gwael yng Nghymru.

Fe fydd gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb yn cyhoeddi'r cyfarfod yn y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth.

Bydd yn dweud bod cysylltiad ffôn yn "hanfodol" i alluogi busnesau yng nghefn gwlad i dyfu.

Ychwanegodd bod defnyddwyr yn "disgwyl i'n dyfeisiau symudol weithio'n ddibynadwy ble bynnag ydyn ni".

Mae disgwyl i gynrychiolwyr o undebau ffermwyr, tirfeddianwyr, cynghorau a chwmnïau ffôn fod yn rhan o'r gynhadledd.

'Hanfodol i fusnesau'

Bydd Mr Bebb yn dweud wrth gyfarfod Ofcom yn y Sioe Frenhinol bod mwy na 250,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio i fusnesau bach neu ganolig, sydd angen cysylltiad ffôn a band eang dibynadwy.

"Mae hi'n hanfodol i fusnesau bach a chanolig, a busnesau cartref i ddatblygu a thyfu eu cwmnïau yng nghefn gwlad Cymru," bydd yn dweud.

"Mae hi'n deg i ni ddisgwyl i'n dyfeisiau symudol i weithio'n ddibynadwy ble bynnag ydyn ni, boed hynny gartref, yn y gweithle, mewn car neu yng nghaeau Powys.

"Dyna pam, wrth adeiladu ar y trafodaethau yn y digwyddiad yma, byddwn yn cynnal cynhadledd gydag Ofcom, cwmnïau ffôn ac eraill i ystyried y problemau am signal ffôn yng Nghymru."

Image copyright PA

Bydd Mr Bebb hefyd yn ailadrodd galwadau gan Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns i ymlacio cyfyngiadau ar adeiladu mastiau yng Nghymru, fel sydd wedi digwydd eisoes yn Lloegr.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth y cyn ganghellor, George Osborne gyhoeddi y gallai mastiau hyd at 25 metr o uchder gael eu hadeiladu yn Lloegr heb ganiatâd cynllunio.

Bydd Mr Bebb yn dweud: "Rydw i eisiau i Gymru fod mewn safle ble mae cwmnïau ffôn yn ei chael hi mor hawdd i fuddsoddi ag y mae hi yn Lloegr."

Yn ymateb i alwadau Mr Bebb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cwrdd â chwmnïau ffôn yn gyson i drafod unrhyw broblemau, yn cynnwys hawliau datblygu mastiau."

"Rydyn ni'n ystyried ein hopsiynau ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn gweithredu yn y modd cywir ar gyfer yr hawliau yng Nghymru."