Amddiffynnwr Cymru Jazz Richards yn ymuno â Chaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo amddiffynnwr Cymru, Jazz Richards o glwb Fulham.
Fel rhan o'r trosglwyddiad bydd y cefnwr chwith Scott Malone yn gadael Stadiwm Dinas Caerdydd ac yn symud i Craven Cottage.
Roedd Richards, sydd yn gyn-chwaraewr Abertawe, yn rhan o garfan Cymru yn Euro 2016 ac fe ddaeth ymlaen fel eilydd yn ystod y fuddugoliaeth o 2-1 dros Slofacia yn y gêm agoriadol.
Dywedodd rheolwr Caerdydd, Paul Trollope y byddai'r amddiffynnwr yn siwtio'r steil o chwarae y mae'n bwriadu ei gyflwyno, a'i fod awyddus i gael mwy o Gymry yn y garfan.
"Mae'n amlwg yn chwaraewr dw i'n ei nabod yn dda o garfan Cymru [ble roedd Trollope yn hyfforddwr], ac roedd cyflwyno elfen Gymreig arall yn ffactor fawr hefyd," meddai'r rheolwr.
'Grêt bod nôl'
Dechreuodd Richards ei yrfa fel chwaraewr ieuenctid yng Nghaerdydd cyn symud i Abertawe a chwarae dros hanner cant o weithiau dros yr Elyrch rhwng 2009 a 2015.
Fe dreuliodd gyfnodau ar fenthyg gyda Crystal Palace, Huddersfield a Fulham yn ystod y cyfnod hwnnw, cyn arwyddo i Fulham am £500,000 y llynedd.
Mae ganddo hefyd 10 cap dros Gymru, gyda phedwar o'r rheiny yn dod yn ystod ymgyrch ragbrofol Euro 2016, gan gynnwys y fuddugoliaeth o 1-0 dros Wlad Belg yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2015.
"Mae'n grêt bod nôl yng Nghymru a dw i'n meddwl fod hwn yn gyfle mawr i mi chwarae mwy o gemau," meddai'r amddiffynnwr 25 oed.
Ychwanegodd ei fod yn "gallu gweld sut fath o reolwr" fyddai Paul Trollope o gyfnod y ddau gyda'i gilydd yng ngharfan Cymru, a bod hynny'n rhan o'i reswm dros arwyddo.