Wales Online yn 'hollol' ymrwymedig i straeon gwleidyddol

Paul Rowland
Image caption Cafodd Paul Rowland ei benodi i'w swydd bresennol ym mis Mai

Mae prif olygydd y wefan Wales Online wedi dweud ei fod yn "hollol" ymrwymedig i roi sylw i straeon gwleidyddol.

Daeth sylwadau Paul Rowland yn dilyn penderfyniad y Daily Post i ddiswyddo ei gohebydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae Mr Rowland yn brif olygydd Trinity Mirror De Cymru, cwmni sydd yn cyhoeddi'r Western Mail, yr Echo a'r South Wales Evening Post.

Dydy'r Daily Post ddim yn cael ei reoli gan Mr Rowland, gan mai Trinity Mirror Gogledd Cymru sy'n gyfrifol am y papur newydd a'r wefan.

Dywedodd Mr Rowland: "Does dim bwriad o gwbl gennym gael gwared ar ein gohebydd yn y Senedd. Mae'n rhan annatod o'n rôl fel cyhoeddwr cenedlaethol. Byddai'n hurt i ni gael gwared â'r swydd."

Mae'n honni bod yr ystafell newyddion presennol wedi cynhyrchu mwy o straeon gwleidyddol nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes diweddar.

Dywedodd: "Ry' ni'n cynhyrchu mwy o straeon gwleidyddol nawr nag yr ydym erioed wedi gwneud ar unrhyw adeg dros y ddeng mlynedd diwethaf. A fyddai modd i ni wneud mwy? Byddai, wrth gwrs.

"Ond rydym ni hefyd wedi ymrwymo i ddarparu cymysgedd o gynnwys ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd."

Mae gwleidyddion ac academyddion wedi beio'r prinder newyddion am wleidyddiaeth Gymreig am greu "diffyg democrataidd".

'Bwch dihangol'

Ond mae Mr Rowland yn dadlau bod angen mwy na chynnydd mewn sylw gan y wasg i wella'r cysylltiad rhwng y cyhoedd a'r gwleidyddion.

Dywedodd: "Rwy'n credu bod 'na fater llawer, llawer fwy o faint ynglŷn ag adrodd yn gywir am y broses wleidyddol yng Nghymru na rhoi pwysau arnom i anfon gohebydd ychwanegol i un cyfarfod cyngor neu'r llall.

"Mae 'na fwy o broblem o ran cysylltu'r cyhoedd â gwleidyddiaeth. A dydy defnyddio'r cyfryngau fel bwch dihangol ddim yn datrys y sefyllfa."

Mae cyhoeddiadau Trinity Mirror wedi wynebu beirniadaeth gan wleidyddion ac Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr ar ôl cynyddu eu straeon am faterion llai o bwys, gan gynnwys erthyglau am agor bwytai a chyhoeddi rhestrau hir.

Ond dywedodd Mr Rowland bod angen i wasanaethau newyddion digidol ddarparu ar gyfer cynulleidfa eang, a doedd cynnydd yn yr erthyglau newydd ddim ar draul ei gwaith o graffu ar faterion Cymreig.

"Rwy'n credu ei fod yn drahaus iawn i ni eistedd yma a dweud, 'dyma'r straeon sy'n bwysig', meddai, "oherwydd os ydy stori yn bwysig, yna ein gwaith ni ydy i egluro i'n darllenwyr yr hyn sy'n bwysig am y peth. Ac yn y rhan fwyaf o achosion, gallwn ni wneud hynny.

"Mae gennym ni i gyd ddiddordeb yn yr un peth. Ry' ni i gyd yn awyddus i weld Cymru lwyddiannus, ry' ni i gyd am weld gwaith craffu yn digwydd, ac ry' ni i gyd am weld gwleidyddion yn cael eu herio. Yn amlwg mae gennym rôl o ran gwneud hynny.

"Yn y bôn ry'n ni'n fusnes sydd angen gwneud elw, a dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd gennym ar hyn o bryd. Dydi dyblu'n adnoddau yn sydyn ddim yn mynd i arwain at ddyfodol cynaliadwy.

"Ond mae 'na wahanol ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd.

"Un ffordd yw i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cysylltu'n amlach gyda'n cynnwys, ac rwy'n credu bod rôl gan y gwleidyddion sy'n ein beirniadu ni i sicrhau bod hyn yn llwyddo, gan ein bod rhannu'r un amcan sef i gysylltu'r cyhoedd gyda'r broses ddemocrataidd ac i gefnogi Cymru sy'n wlad lwyddiannus."