Cyn-drefnydd yr Eisteddfod wedi marw yn 100 oed
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, John Roberts wedi marw.
Roedd Mr Roberts yn 100 oed ac yn dod o'r Groeslon ger Caernarfon.
Ym mis Mai 2016, fe ddathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed, a bu'n byw mewn cartref yng Nghaernarfon ers rhai blynyddoedd.
Er i Mr Roberts gael cynnig cerdyn pen-blwydd gan y Frenhines ym mis Mai, gwrthododd gan ddweud "nad oedd yn ei adnabod".
Mr Roberts oedd trefnydd llawn amser cyntaf yr Eisteddfod, pan gafodd ei benodi yn 1959, ac fe dreuliodd 20 mlynedd yn cyflawni'r swydd, gan orffen ar stepen ei ddrws yn Eisteddfod Caernarfon 1979.
Y tro diwethaf i Mr Roberts ymweld â maes y Brifwyl oedd yn Y Faenol yn 2005.
'Dyn doeth'
Wrth roi teyrnged i John Roberts, fe ddisgrifiodd y Parchedig R Alun Evans ef fel cyfaill "cywir iawn", a'i fod yn "ddyn doeth a diwylliedig, ac yn drefnydd heb ei ail".
"Roedd John yn ddyn pendant iawn, a doedd dim ots ganddo pwy oedd o'n siarad â nhw, oherwydd ei natur un-wynebog a didwyll.
"Roedd John yn cymryd diddordeb mawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny am flynyddoedd wedi i'w waith ddod i ben yn swyddogol. Mae'n debyg fod ei gyfraniad wedi bod yn rhan o'r datblygiadau a'r newidiadau mawr sydd wedi bod i'r ŵyl dros y blynyddoedd diwethaf."