Consortiwm o America yn cwblhau prynu clwb Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae consortiwm o'r Unol Daleithiau wedi cwblhau prynu cyfran fwyafrifol yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Jason Levien a Steve Kaplan, sydd â phrofiad yn rhedeg timau chwaraeon yn America, sy'n arwain y consortiwm sydd wedi prynu 68% o'r clwb.
Fe wnaeth y perchnogion newydd, gafodd ganiatâd i brynu'r clwb gan yr Uwch Gynghrair ddechrau'r mis, gwblhau'r cytundeb yn dilyn cyfarfod gyda'r cadeirydd, Huw Jenkins.
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe yn cadw eu cyfran o 21% o berchnogaeth y clwb.
Er hyn, dywedodd yr ymddiriedolaeth ei fod yn "siomedig" nad oedd wedi'i gynnwys yn unrhyw drafodaethau.
Bydd Jenkins yn aros yn ei rôl fel cadeirydd, gyda'r is-gadeirydd Leigh Dineen hefyd yn aros.
Mae'r BBC ar ddeall bod y perchnogion newydd hefyd yn awyddus i brynu Stadiwm Liberty.
Y cyngor sy'n berchen ar y stadiwm ar hyn o bryd, a byddai ei brynu yn galluogi i'r perchnogion newydd gynyddu ei faint.