Môn i drafod gwariant pellach ar blant mewn gofal

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn gofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Cyngor Ynys Môn yn cyfarfod yn nes ymlaen i drafod cynllun i wario £627,000 yn ychwanegol dros y tair blynedd nesaf ar wasanaethau plant sy'n derbyn gofal.

Mae'r cyngor wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau plant dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r awdurdod wedi buddsoddi £1m dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ganlyniad i gynnydd o 43% mewn plant sy'n derbyn gofal (35% o fewn y 12 mis diwethaf) ac mae ffigyrau'n dal i godi.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn ymchwilio i'r rhesymau dros y cynnydd, ond bod y galw wedi tyfu ar draws Cymru, a bod y ffigyrau yn dal yn isel o'u cymharu â'r cyfartaledd drwy'r wlad.

Fe wnaeth y cyn Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford osod her i awdurdodau lleol i ostwng nifer y plant sy'n derbyn gofal, a dywedodd cyngor Ynys Môn mai dyna yw eu nod.