Bom o gyfnod y rhyfel yn amharu ar drenau gogledd Cymru

Tren arriva

Mae bom o gyfnod y rhyfel wedi ei ddarganfod ger llinell rheilffordd, gan amharu ar wasanaethau rhwng Amwythig a Wrecsam.

Dywedodd gwmni Trenau Arriva Cymry bod y rheilffordd wedi ei chau rhwng y ddwy orsaf.

Ychwanegodd y cwmni bod gwasanaethau rhwng y gorsafoedd unai wedi eu canslo neu eu gohirio, ac mae disgwyl i'r effeithiau barhau nes 13:00 ddydd Llun.

Mae bysiau yn gweithredu rhwng gorsafoedd Wrecsam, Caer ac Amwythig.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Arriva bod tîm difa bomiau wedi eu galw i'r digwyddiad.